Part of the debate – Senedd Cymru am 5:59 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Un o’r amcanion y dylem ei osod i ni ein hunain yw sicrhau bod y llwybr tuag at waith i’r rhai sy’n gadael y lluoedd arfog yn cael ei gefnogi fel y gallant barhau i gyflawni eu potensial yn y gweithlu sifil. Ar draws y DU, mae cyn-filwyr yn llai tebygol o fod mewn gwaith na’r boblogaeth yn gyffredinol, ac maent bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith. Nawr, mae yna resymau pam y mae cyn-filwyr o oedran gweithio yn wynebu heriau penodol. Yn aml, mae’r rhai sy’n ymuno â’r lluoedd arfog yn ifanc yn gwneud hynny fel llwybr gyrfa amgen tuag at addysg bellach neu uwch neu gyflogaeth sifil. Bydd rhai yn dewis hynny oherwydd nad ydynt yn teimlo bod ganddynt allu, efallai, i ddysgu yn y ffordd gonfensiynol, ac mae hyd at 50 y cant o recriwtiaid i’r fyddin yn meddu ar sgiliau llythrennedd a rhifedd sy’n is na’r safon ddisgwyliedig ar gyfer rhai sy’n gadael ysgol yn 16 oed. Mae’r rhai yn y grwpiau oedran hŷn sy’n gadael y lluoedd arfog yn aml yn teimlo’n llai hyderus, er enghraifft, ynglŷn â’u sgiliau cyfrifiadurol, ond—ac mae hwn yn gafeat pwysig iawn—gall gyrfa yn y lluoedd arfog alluogi unigolyn hefyd i ddatblygu sgiliau real a defnyddiol iawn a all fod yn ased defnyddiol i gyflogwr sifil.
Fel y mae Busnes yn y Gymuned yn cydnabod, gyda dros 200 o feysydd crefft yn y Fyddin yn unig, mae personél y lluoedd arfog yn cael hyfforddiant ymlaen llaw mewn nifer o rolau technegol, gan gynnwys peirianneg, rheoli prosiectau, cyfathrebu, logisteg a TG— ac ystod ehangach na hynny— a phob un yn drosglwyddadwy i’r gweithle sifil.
Ond y broblem yn aml yw nad yw’r sgiliau hynny’n arwain at gymhwyster ffurfiol y gall cyflogwr y tu allan i’r lluoedd arfog ei adnabod fel dangosydd cyfres benodol o sgiliau a lefel benodol o hyfedredd. Felly, un mater yw sut rydym yn trosi’r sgiliau hynny, sy’n rhai go iawn, i mewn i iaith y byddai cyflogwr yn ei deall. Fel y dywedodd un cyn-filwr:
Mae yna rai pethau nad oes gennych gymhwyster ar eu cyfer. Er enghraifft bod yn gyfrifol am rhwng 200 a 600 o ddynion... Rwyf wedi bod yn gyfrifol am ddogfennau cyflog, pasbortau, byddino, bomiau, bwledi, popeth... Nid oedd yn golygu unrhyw beth oherwydd nid oes gennyf gymwysterau.
Felly, rwyf am dalu teyrnged i’r nifer o raglenni gwirfoddol sy’n cynorthwyo cyn-bersonél y lluoedd arfog i gael gwaith ar ôl eu rhyddhau: Getting You Back to Work gan The Poppy Factory, rhaglen gyflogaeth cyn-filwyr y lluoedd arfog, rhaglen fentora ar-lein y Lleng Brydeinig, a hefyd LifeWorks, sydd yma yn y Cynulliad yr wythnos nesaf, sef cwrs pum niwrnod, gyda hyfforddiant, paratoi ar gyfer cyfweliadau, a gweithdai cv a ddarperir gan y Lleng Brydeinig.
Rwyf hefyd yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos iawn gyda chyrff gwirfoddol sy’n cefnogi cyn-filwyr, ac mae llawer wedi elwa o Lwybrau Cyflogadwyedd y Lluoedd Arfog, a hefyd o Twf Swyddi Cymru. Ond byddwn yn gofyn i’r Llywodraeth, wrth iddi gyflwyno ei rhaglen brentisiaethau, a’r Porth Sgiliau newydd yn y Cynulliad hwn, i ystyried sut y gellid eu defnyddio hefyd i helpu personél y lluoedd arfog i gyflawni eu potensial yn y gweithlu sifil, a gwn fod yna waith da’n digwydd o fewn y llwybr prentisiaethau.
Mae’n fater o falchder, fel y mae Aelodau eraill wedi’i ddweud, fod yn rhaid i awdurdodau lleol—pob awdurdod lleol—a byrddau iechyd yng Nghymru gael hyrwyddwyr y lluoedd arfog, a byddwn yn annog busnesau hefyd i lofnodi cyfamod y lluoedd arfog, sy’n cynorthwyo cyn-filwyr i gael gwaith drwy warantu cyfweliadau i gyn-filwyr, cydnabod sgiliau milwrol mewn cyfweliadau a mynd ati i geisio codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gwaith ymhlith y rhai sy’n gadael y lluoedd arfog.
Mae’n bwysig yn ystod wythnos y cofio ein bod yn cydnabod ymroddiad ein personél sy’n gwasanaethu a’n cyn-filwyr, ac rwy’n credu ei bod yn ddyletswydd arnom hefyd i gydnabod yr heriau penodol y mae llawer yn eu hwynebu wrth gamu i fyd gwaith ac i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i allu gwneud hynny, fel eu bod yn gallu parhau i fynd â’r ymrwymiad y maent wedi’i ddangos yn y lluoedd arfog i mewn i fyd gwaith ac fel nad yw’r doniau sydd ganddynt yn cael eu colli o’n heconomi.