Part of the debate – Senedd Cymru am 6:37 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru hefyd am gyflwyno’r ddadl hon heddiw? Byddwn yn cefnogi’r cynnig, a byddem wedi bod yn fodlon cefnogi gwelliant y Llywodraeth hefyd, ond mae’n dileu pwynt 2. Nid wyf yn gweld pam na allai’r Llywodraeth dderbyn y pwynt, nodi’r rhesymau pam a chyferbynnu hynny gyda’r uchelgeisiau newydd ar gyfer eu strategaeth sydd ar ddod. Rwy’n symud y gwelliant hefyd.
Nawr, y rhesymau pam—wel, pam na wnawn ni ddechrau gydag awdurdodau lleol? Dylent fod wedi cydio yn eu rhwymedigaeth i hyrwyddo'r iaith Gymraeg erbyn hyn. Mae cynlluniau statudol Cymraeg mewn addysg wedi ffaelu. Mae’n wastraff arian i ofyn i gynghorau wneud y gwaith ymchwilio neu hyrwyddo os nad ydynt yn mynd i weithredu ar y canlyniadau. Yn waeth na hynny, mae’n atgyfnerthu canfyddiadau bod polisi iaith Gymraeg hyd yn hyn yn fater o rodres gwleidyddol a thicio blychau nag ewyllys ddofn i ddatblygu cenedl ddwyieithog.
Mae diffyg arweiniad a chyfeiriad wedi creu galw am addysg cyfrwng Cymraeg sy’n tyfu yn araf ac yn ansicr ar draws ardaloedd cynghorau yn fy rhanbarth. Nid oes dim crynodiadau cyfleus i gynllunio am adeiladu ysgolion newydd, felly rŷm ni’n gweld canoli darpariaeth, gan dynnu Cymreictod gweledol allan o gymunedau er lles un safle, weithiau yn bell i ffwrdd o gartrefi plant. Nid yw hynny’n helpu gyda blaenoriaeth arall y Llywodraeth, sef tyfu defnydd o’r Gymraeg ym mhob cymuned. A gall fod yn ddigon anghyfleus i rai teuluoedd i beidio â dilyn eu bwriadau da, gan atal a gwrthdroi'r galw gwreiddiol. Temtasiwn arall yw anwybyddu’r galw—i adael gorlif yn yr ysgolion cyfrwng Cymraeg presennol i’r pwynt lle, unwaith eto, mae’r galw yn mygu yn y camau cynnar.
Gadewch inni boeni llai am adeiladu ysgolion newydd mewn lleoliadau canolog sy’n mynd i fod yn rhy fach neu’n rhy fawr yn y tymor canolig, ac edrych yn agosach at dyfu’r defnydd cyfrwng Cymraeg ar safleoedd ysgolion presennol. Nawr, i fod yn glir, nid yw hyn yn tynnu sylw oddi ar yr angen am ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd. Mae opsiwn ychwanegol i gynghorau sydd yn y trap amseru, os gallaf ei ddisgrifio fel yna, fel rwyf jest wedi’i ddisgrifio. Nid wyf yn sôn chwaith am ysgolion dwyieithog. Rwy’n siarad am ysgolion cyfrwng Saesneg sy’n bodoli yn barod, gydag unedau cyfrwng Cymraeg wedi eu cydleoli, ond ar wahân, sy’n tyfu o flwyddyn i flwyddyn gyda phob derbyniad newydd. Ar yr un pryd, fel rydym wedi trafod o’r blaen, Lee Waters, mae angen i ysgolion cyfrwng Saesneg gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu. Mae dal angen i’r rhai sy’n mynd drwy’r system Saesneg gael cyfle i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg digonol ar gyfer eu defnyddio yn eu bywydau yn y dyfodol.
Nawr, rwy’n derbyn bod hyn yn creu her enfawr ar lefel Llywodraeth Cymru—rwyf yn gwneud hynny: cwricwlwm sy’n mynnu ar ddefnydd pwrpasol o’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; safleoedd ysgolion hyblyg sy’n gallu darparu ar gyfer y galw sy’n tyfu am y Gymraeg, ac, o bosib, gollwng y galw Saesneg fel canlyniad; ac, wrth gwrs, y gweithlu—mae Llyr wedi sôn am hynny—sy’n gallu addysgu’n dda mewn system o’r fath, neu beth bynnag. Yn y cyfamser, wrth gwrs, mae’n rhaid inni ystyried y plant a’r bobl ifanc sy’n mynd drwy’r system sydd gyda ni yn barod, a pha mor debygol yw hi iddyn nhw gael cyfle i gaffael digon o sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer y defnydd parhaus ar ôl ysgol, a’u bod nhw’n eu gwerthfawrogi ddigon i’w trosglwyddo i’w plant maes o law. Dyma’r cenedlaethau sy’n wynebu ergyd ddwbl yr amharodrwydd—profiad gwael yn yr ysgol, fel mae Lee wedi dweud, a marchnad gyflogaeth lle nad yw cyflogwyr yn gweld defnydd o’r Gymraeg fel rhywbeth pwysig.
Mae gan safonau rôl, ond fel rŷch chi wedi clywed oddi wrthyf o’r blaen, os nad yw busnes yn credu bod dwyieithrwydd yn rhinwedd, rydych chi’n edrych ar rwystr arall at eich nod o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg. Mae cyfleoedd ar gyfer y Coleg Cymraeg i gynnig addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau addysg bellach, ac rwy’n gobeithio, Weinidog, y byddwch yn ystyried y cyfleodd hynny. Mae yna gyfleoedd hefyd am sgiliau iaith Gymraeg perthnasol i gael eu datblygu ym mhob cwrs galwedigaethol sy’n arwain at yrfaoedd sy’n wynebu’r cyhoedd—gofal cymdeithasol, manwerthu, gwallt a harddwch, ac yn y blaen. Mae arweinwyr colegau yn ddryslyd pan fyddaf yn sôn am y gwahaniaeth rhwng hynny a chyfrwng Cymraeg, ond nid yw addysg Gymraeg yn unigryw yn ei chyfrifoldeb am greu siaradwyr Cymraeg. Diolch.