Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae angen rhwng 15,000 a 18,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol arnon ni bob blwyddyn, dros gyfnod o 30 mlynedd, os ydym yn mynd i gyrraedd y nod o 1 filiwn o siaradwyr. Ac mae hynny ar ben mynd i’r afael â’r nifer sy’n gadael cymunedau Cymraeg a Chymru. Mae rôl addysg yn gwbl allweddol i gyrraedd y nod. Bellach, mae mwyafrif llethol y sawl sy’n siarad Cymraeg yn ei dysgu yn yr ysgol. Cymharwch chi hynny efo’r sefyllfa yng nghanol y ganrif ddiwethaf a chyn hynny, lle mai adref yr oedd y mwyafrif llethol wedi dysgu’r Gymraeg. Rwy’n digwydd bod yn un o’r bobl ffodus yna sydd wedi caffael yr iaith ar yr aelwyd fel iaith gyntaf, naturiol ein teulu ni, ond dim dyna ydy profiad nifer cynyddol o bobl, yn anffodus. Achos, erbyn hyn, nid yw trosglwyddo’r Gymraeg yn y cartref mor effeithiol ag y bu yn y gorffennol, oherwydd bod yna lai o deuluoedd lle mae’r ddau riant yn siarad Cymraeg.
Mae’n hollol amlwg, felly, fod rhaid cynyddu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg er mwyn cynhyrchu 1 filiwn o siaradwyr. Ar hyn o bryd, nid yw’r ganran o blant mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn cynyddu, ac mae hyn er gwaetha’r dystiolaeth bod galw sylweddol am addysg Gymraeg, galw sydd ddim yn cael ei ddiwallu yn y rhan fwyaf o Gymru. Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn allweddol wrth greu’r newid anferth sydd ei angen. Ers 2013 mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd gyfreithiol i asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg, a nodi sut mae’r awdurdod yn mynd i wella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu hardal. Ac mae gan Lywodraeth Cymru rôl ganolog i sicrhau bod y cynlluniau yma yn uchelgeisiol a chadarn. Yn anffodus, nid dyna’r sefyllfa. Yn Rhagfyr 2015, fe ganfu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg nad oedd y cynlluniau yma yn effeithiol ac fe gyflwynwyd 17 o argymhellion i’r Llywodraeth. I fod yn gwbl effeithiol, mae’n rhaid i’r cynlluniau hyrwyddo addysg cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag ymateb i unrhyw alw, ac mae’n rhaid i awdurdodau ddiffinio yn eu cynlluniau addysg lle bydd ysgol neu ysgolion newydd yn cael eu hadeiladu, a phryd y byddan nhw’n cael eu hadeiladu.
Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae ymdrech hynod ganmoladwy wedi ei wneud dros y blynyddoedd er mwyn sicrhau bod digon o ysgolion er mwyn ymateb i’r galw am addysg Gymraeg. Gwelwyd cynnydd o bedair ysgol gynradd i 11, ac mae yna’n dal alw cynyddol yno am lefydd, yn enwedig yn y tair ysgol yng Nghaerffili ei hun. Fe gynhaliwyd arolwg gan y mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg yn ardal Rhisga, lle y gwnaethant ganfod y buasai nifer sylweddol o rieni yn anfon eu plant i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg petai’r ysgol honno ar gael yn lleol.
Felly, mae’r galw yno, nid yn unig yng Nghaerffili ond ar draws Cymru. Rhan o’r ateb, yn sicr, ydy adeiladu rhagor o ysgolion, ac felly mae angen i’r Llywodraeth sicrhau bod cronfa o arian ar gael i awdurdodau lleol sydd eisiau cynyddu’r ddarpariaeth o ysgolion cyfrwng Cymraeg oherwydd, hyd y gwn i, y tu allan i’r cynllun ysgolion yr unfed-ganrif-ar-hugain, sydd i bwrpas gwahanol, nid oes arian ar gael. Yn ogystal, fel rhan o’r strategaeth iaith mae’r Llywodraeth yn ymgynghori arni ar hyn o bryd, mi fydd yn rhaid i’r Llywodraeth gynnwys strategaeth fanwl am faint o athrawon a staff ategol ychwanegol fydd ar Gymru eu hangen er mwyn gwneud yn siŵr bod y sector addysg yn gallu cyfrannu’n helaeth at y nod o 1 miliwn o siaradwyr.
Gair sydyn am y sectorau addysg uwch a phellach. Rydym yn falch o lwyddiant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd rŵan yn ymestyn cyfleoedd am addysg cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion. Rwy’n falch iawn o weld bod yna adolygiad yn mynd i fod o’r Coleg Cymraeg gan yr Ysgrifennydd Cabinet, a fydd yn edrych ar ymestyn y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg i’r sector addysg bellach, yn ogystal â’r sector addysg uwch, lle mae cymaint o’n pobol ifanc ni yn astudio.
Gyda llaw, rydym hefyd yn awyddus i weld mwy o brentisiaethau yn cael eu cynnig, un ai drwy’r Gymraeg neu efo rhywfaint o weithgaredd Cymraeg ynddyn nhw. Allan o bron i 50,000 o brentisiaethau, dim ond 165, sydd yn 0.34 y cant, a oedd yn cynnwys ychydig o Gymraeg—un gweithgaredd Cymraeg a oedd angen ei gynnwys. Mae’n amlwg, felly, fod angen newid trosiannol ym mhob agwedd ar addysg Gymraeg os ydym am gael unrhyw obaith o gyrraedd y nod o 1 miliwn o siaradwyr.