Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 9 Tachwedd 2016.
Mae’n bleser cymryd rhan mewn dadl â’r fath syniadau’n cael eu gwyntyllu. Llongyfarchiadau i Suzy ac i Mike am eu cyfraniadau.
Rydw i, fel Sian Gwenllian, wedi bod yn ffodus yn ddaearyddol ac mewn teulu i gael magwraeth gyfan gwbl Gymraeg, i’r fath raddau nad oeddwn i’n gallu siarad Saesneg tan yr oeddwn i’n saith mlwydd oed, ac nid oeddwn i’n gwybod beth oedd y syniad o iaith arall. Roedd yn rhaid imi ddysgu’r Saesneg er mwyn cael addysg.
Rwy’n croesawu ac yn edmygu dewrder y Llywodraeth yn anelu am 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac rwyf i gyda chi 100 y cant. Wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn fan hyn o’r blaen: 1900 oedd hi ac roedd yna 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg bryd hynny hefyd. Felly, adennill y tir ydym ni, ac rydym yn benderfynol ein bod ni yn mynd i adennill y tir, yn enwedig ar ddiwrnod fel heddiw. Rydym newydd gael y canlyniad etholiadol yn Unol Daleithiau’r America ac mae’n ddigon hawdd teimlo ychydig bach yn isel ein hysbryd, ond mae’n werth cofio bod yna rywbeth prin gennym ni efo’r iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw, a dylai fod yn destun ein bod yn gallu ymhyfrydu ynddi a dathlu ein bod ni’n dal, ar raddfa eang, yn gallu siarad Cymraeg. Yn hanes dynoliaeth, pan fydd yna iaith leiafrifol yn dod i fyny yn erbyn iaith gref fwyafrifol drws nesaf, mae’r iaith fach leiafrifol yn raddol marw allan ac yn diflannu. Yn hanes dynoliaeth, dim ond tair iaith leiafrifol sydd wedi gallu gwrthsefyll y fath bwysau mawr: Hebraeg ydy un, Basgeg ydy’r ail a’r trydydd ydy’r Gymraeg. Yn holl hanes dynoliaeth ar y ddaear yma, rydym mewn cenedl sy’n arddel iaith sydd wedi profi ei bod yn gallu gwyrdroi hanes. Nid yw popeth yn ddu o bell ffordd, ond mae wedi cymryd gwaith caled cyn belled i arddel y 562,000 o siaradwyr Cymraeg sydd gyda ni heddiw.
Rydym wedi adennill y tir, ond mae yna waith i’w wneud, fel rydym wedi’i glywed. Nid af ar ôl mater yr ysgolion. Mae’n werth nodi bod gyda ni 386 o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y sector cynradd yng Nghymru—386 o ysgolion, fe wnaf ailadrodd hynny. Mae yna gyfraniad allweddol y mae’r sector addysg yn gwneud i’n hiaith ni. Ond, fe allwn ni wneud mwy yn y gweithle, er enghraifft, gyda mwy o ddarpariaeth i annog ac i helpu pobl i ddysgu Cymraeg yn naturiol i’r lefel y gallan nhw ei defnyddio yn naturiol, fel mae Mike Hedges wedi awgrymu eisoes—lefel naturiol sy’n briodol i’r math o waith y maen nhw’n ei wneud.
Pan oedd fy mab hynaf mas yn yr Almaen, roedd disgwyl iddo ddod yn rhugl yn yr Almaeneg yn y gwaith yr oedd yn gwneud efo’i radd ar y pryd. Roedden nhw’n darparu pobl i ddysgu’r gweithwyr o dramor un-wrth-un. Roedd yn digwydd yn naturiol, nid oedd cost i’r cyflogwr ac roedd o jest yn digwydd. Ac mi ddaeth Aled yn rhugl yn yr Almaeneg o fewn tri mis o wneud hynny, gan ddarparu gwasanaethau yn yr Almaeneg i Almaenwyr yn Berlin. Mae’n bosibl i’w wneud e. Wrth gwrs, efo cefndir mewn ysgolion Cymraeg, mi roedd y gallu dysgu’r iaith Almaeneg yn llawer haws—un arall o rinweddau cael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’n bwysig ei gwneud hi’n haws i bobl ddysgu Cymraeg fel oedolion. Mae angen rhagor o ddarpariaeth, rhagor o hwb i’r cynllun Cymraeg i oedolion a Chymraeg yn y gweithle.
Rwy’n nodi’r arian ychwanegol sydd wedi dod drwy law’r cytundeb yma rhyngom ni fel Plaid a Llafur. Ond, mae mwy o waith i’w wneud achos o ran cyrsiau i oedolion yn gyffredinol trwy gyfrwng y Gymraeg, nid oes llawer ohonyn nhw. Dim ond 0.2 y cant o’r holl gyllid o £17 miliwn ar gyfer y fath gyrsiau sy’n cael ei wario ar gyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg. Ond, ar ddiwrnod fel heddiw, ar ôl noson fel neithiwr, rydym eisiau i bobl fod yn ymwybodol iawn o gyfraniad y Gymraeg, i fod yn bositif ynglŷn â’r Gymraeg, ac, ie, dysgu pobl a dysgu’n plant ni yn iawn i ddod yn rhugl yn y Gymraeg.
Fel y dywedais, rydym wedi bod yma o’r blaen efo 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg ac efo cryn dipyn o waith ac arddeliad ac ymrwymiad ac arweinyddiaeth gan y Llywodraeth yma, a gwaith caled gan bawb arall, a neb i fod yn llai na hyderus yn defnyddio eu Cymraeg yn gyhoeddus, ac yn mynnu fel siaradwyr Cymraeg ein bod ni’n defnyddio gwasanaethau yn y Gymraeg—nid ydym wastad eisiau, ar sail diffyg hyder, ac rydym yn mynnu defnyddio’r gwasanaeth Saesneg—. Mae fyny i ni i gyd. Rydym yn edrych am yr arweinyddiaeth, rydym yn edrych fel ein bod ni’n ei gael o, ond mae yna waith caled er mwyn inni adennill y tir yna o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg.