Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Cefais gyfarfod â Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn ddiweddar i drafod mynediad at wasanaethau adsefydlu cleifion yr ysgyfaint i’r 2,000 o bobl yn fy etholaeth i sy'n byw gyda COPD. Er bod y rhai yng nghlwstwr meddygon teulu gogledd Cynon yn cael eu cludo i Ferthyr yn gymharol hawdd, gall y rhai yn y de wynebu anawsterau, gan orfod teithio i Donypandy, dros ddau fynydd yn aml, ar gyfer eu triniaeth adsefydlu. Cyn Diwrnod COPD y Byd yfory, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i wella mynediad at y driniaeth gost-effeithiol hon yng nghwm Cynon?