Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wel, rydym ni yn cydnabod bod ardaloedd lle mae mynediad yn anodd, a dyna pam yr ydym ni’n gwella mynediad at raglenni ymarfer corff wedi'u dilysu yn rhan o feysydd blaenoriaeth y grŵp gweithredu ar glefyd anadlol. Mae'r grŵp yn creu set ddata Cymru gyfan, er mwyn deall yn well y ddarpariaeth a'r nifer sy’n manteisio arni, er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyrhaeddiad mor ddwfn â phosibl, er mwyn i'r rhaglenni gael eu darparu’n briodol. Felly, mae mynediad yn fater sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd.