<p>Darpar-Arlywydd Unol Daleithiau America</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:33, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, nid wyf wedi fy argyhoeddi hyd yn hyn. A'r rheswm pam rwy’n dweud hynny yw bod Donald Trump wedi ei ethol ar y sail o roi America yn gyntaf. Ar y sail honno, nid wyf yn gweld bod cytundebau masnach rydd yn mynd i fod yn uchel iawn ar ei agenda. Mae wedi dweud ei fod eisiau dadwneud trefniadau masnachu byd-eang. Felly, bydd yn rhaid i ni aros i weld. Hynny yw, yn amlwg, mae gwaith i'w wneud er mwyn gwneud yn siŵr bod y DU mewn sefyllfa mor gref â phosibl ar ôl Brexit, ond ni welaf unrhyw dystiolaeth hyd yma i awgrymu y bydd America o blaid cytundebau masnach rydd sy’n gytbwys ac nid yn ffafrio un ochr yn llwyr yn hytrach na'r llall.