Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Yn Islwyn, rydym ni’n dathlu’r berthynas arbennig hanesyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru gyda balchder mawr, yn General Dynamics, â'u canolfan yn Oakdale. Ac, yn yr uwchgynhadledd bwysig ddiweddar, ailfynegwyd y cysylltiadau agos hynny rhwng Cymru a’r Unol Daleithiau wrth i’r Weinyddiaeth Amddiffyn lofnodi cytundeb gwerth £3.5 biliwn, i archebu 589 o gerbydau arbenigol SCOUT. Sicrhaodd y cytundeb hwnnw y bydd gan y 200 o weithwyr a gyflogir gan General Dynamics yn Oakdale waith pendant ar gyfer y degawd nesaf. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gynlluniau sydd ganddo i adeiladu ar ei daith lwyddiannus iawn i’r Unol Daleithiau ym mis Medi eleni a sicrhau bod mwy o gwmnïau o America eisiau buddsoddi yng Nghymru ac yn ein gweithlu rhagorol?