Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Gwnaf, y neges fu bod Cymru ar agor i fusnes, ac aethom â’r neges honno i America. Mae'r Unol Daleithiau yn fuddsoddwr aruthrol o bwysig yn economi Cymru. Mae dau gwestiwn a ofynnir gan fuddsoddwyr o’r Unol Daleithiau o hyd: yn gyntaf, a fyddan nhw’n gallu cael mynediad at y farchnad fawr Ewropeaidd os ydynt wedi eu lleoli yn y DU ar yr un telerau â nawr? Nid yw hynny wedi cael ei ateb eto. Yn ail, a fydd y drefn reoleiddio yn wahanol yn y DU o'i chymharu â'r UE? Mae hwnnw’n gwestiwn sy'n eu poeni. Felly, mae angen i ni weld atebion i'r cwestiynau hynny cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod y llif o fuddsoddiad yn parhau.