<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:41, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae meddygfeydd teulu yn trefnu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn cynnig apwyntiadau ar y diwrnod hwnnw, ac rwyf i wedi eu gweld. Bydd eraill, am resymau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu hesbonio, yn aros am wythnos neu ddwy, neu’n hwy weithiau. Nid yw hynny’n dderbyniol i’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu, ond mae'r arian ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynllunio, wrth gwrs, i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu ymdrin ag unrhyw bwysau a allai godi o ganlyniad i dywydd oerach, lle mae pobl yn dod i mewn gyda chyflyrau anadlol, er enghraifft. Rydym ni’n gwybod os cânt eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau anadlol, eu bod nhw’n tueddu i gael eu derbyn ac aros yn hwy yn yr ysbyty. Ac rydym ni’n gwybod bod y byrddau iechyd, fel y maen nhw wedi ei wneud yn y blynyddoedd a fu, yn cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, a bydd yr arian ar gael er mwyn iddyn nhw allu ymateb i’r pwysau hwnnw.