1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno bod toriadau i fudd-daliadau anabledd a newidiadau i asesiadau a gyflwynwyd gan Lywodraethau San Steffan wedi mynd yn rhy bell ac yn niweidio pobl sydd mewn gwir angen erbyn hyn?
Nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl yn fy meddwl i bod yr hyn sydd wedi ei wneud gan Lywodraeth y DU o ran budd-daliadau wedi targedu'r rhai mwyaf agored i niwed. Mae'r dreth ystafell wely yn un enghraifft o hynny, ac mae hi wedi crybwyll enghraifft arall yn y fan yna. O’m safbwynt i, bernir cymdeithas ar sail pa mor dda y mae'n gofalu am ei rhai mwyaf agored i niwed, nid trwy dargedu ei rhai mwyaf agored i niwed.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae ffilm Ken Loach "I, Daniel Blake' yn cyseinio gyda phobl ym mhob man. Rwy'n siŵr y byddwch chi’n ymwybodol bod y ffilm yn archwilio caledi, yr achosion sydd wrth wraidd caledi a sut y mae'n ymddangos bod y system wedi ei threfnu i weithredu yn erbyn y bobl hynny sydd fwyaf angen cymorth. Mae rhan fawr o'r caledi a ddioddefir gan bobl anabl wedi ei hachosi gan wallau yn y ffordd y mae asesiadau’n cael eu cynnal. A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn mai meddygon teulu a meddygon ddylai fod y bobl sy’n gwneud asesiadau o anabledd, ac na ddylai fod unrhyw rwystrau sy’n atal pobl anabl rhag cael y cymorth y maen nhw’n ei haeddu?
Ni allwn anghytuno â’r naill na'r llall o'r sylwadau hynny y mae hi wedi eu gwneud. Mae meddygon teulu yn gwbl gymwys i wneud asesiad ynghylch pa un a ddylai rhywun fod yn gymwys ar gyfer budd-dal penodol ai peidio. Yn yr un modd, wrth gwrs, rwy’n poeni am y ffaith bod y bobl hynny sy'n gorfod mynd trwy nifer o rwystrau er mwyn hawlio budd-dal yn cael eu hanghymell rhag gwneud hynny, ac mae hynny'n golygu mwy o galedi iddyn nhw. Ceir rhai efallai nad ydynt eisiau mynd drwy'r broses honno yn y lle cyntaf hyd yn oed, er gwaethaf y ffaith y gallai fod ganddyn nhw hawl i fudd-daliadau. Dyna lle’r ydym ni, yn anffodus, ar hyn o bryd fel cymdeithas, lle mae’r bobl hynny y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn sydd angen help gan y wladwriaeth yn cael eu hanghymell rhag cael y cymorth hwnnw.
Rwy’n rhannu eich pryderon, Brif Weinidog, ac rwy'n falch eich bod chi’n cytuno â’m safbwynt i. Rhoddaf gyfle i chi ddangos faint yr ydych chi’n cytuno. Mae gennyf etholwr sy'n hawlio lwfans cymorth cyflogaeth ac yn dymuno hawlio grant anabledd er mwyn mynd i addysg. Mae ei meddyg teulu yn mynnu ei bod hi’n talu ffi o £95 am lenwi'r ffurflenni. Heb y ffurflenni hynny, ni fydd hi'n cael y grant ac, felly, ni fydd hi’n gallu astudio. Cadarnhawyd i mi y gallai fod yn rhaid i fyfyrwyr dalu i gael grantiau myfyrwyr anabl, ac y caiff meddygon teulu godi tâl am y gwaith hwn, ac mae canllawiau Cymdeithas Feddygol Prydain yn awgrymu y gallai hynny fod yn ffi o £90 am 20 munud o waith. Dyna maen nhw’n ei ddweud sy’n briodol, ac mae hynny'n fwy nag yr ydych chi’n ei ennill fel Prif Weinidog. A ydych chi'n meddwl ei bod yn briodol bod y GIG yr ydych chi wedi bod yn ei redeg ers 17 mlynedd yn rhoi rhwystrau ariannol sylweddol yn ffordd pobl anabl sy’n ceisio gwella eu bywydau? Ac a wnewch chi ymrwymo i gael gwared ar y ffioedd hyn cyn gynted â phosibl?
Wel, dyma’r anhawster gyda'r model contractwyr annibynnol: mae meddygon teulu yn codi tâl am wasanaethau sy'n mynd y tu hwnt i'r contract, a dyna pam, wrth gwrs, fel y mae’r Aelodau wedi fy nghlywed i’n dweud yn y Siambr hon o'r blaen, mae modelau eraill y mae angen i ni eu hystyried yn y dyfodol. Mae hi wedi codi pwynt pwysig ar ran ei hetholwr. Os gwnaiff hi ysgrifennu ataf i gyda mwy o fanylion am yr achos y mae hi wedi ei godi, byddaf, wrth gwrs, yn ysgrifennu yn ôl ati gydag ymateb personol.
Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Brif Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth yr wythnos diwethaf y bydd £50 miliwn ychwanegol yn cael ei roi ar gael ar gyfer pwysau’r gaeaf—rhywbeth yr ydym ni’n gobeithio fydd yn lleddfu peth o'r pwysau a wynebwyd gan y sector acíwt neu sylfaenol yr haf hwn, fel nad yw pobl yn dioddef yr amseroedd aros y bu’n rhaid iddynt eu dioddef yn hanesyddol. Un o'r pethau y mae’n gas gan bobl ei wneud y dyddiau hyn yw ffonio eu meddygfa deulu leol i geisio cael apwyntiad, yn enwedig apwyntiad ar y diwrnod penodol hwnnw, oherwydd yn amlwg mae'r galw mor fawr. A allwch chi ddweud wrthyf sut yn union y bydd y £50 miliwn, neu pa ran o'r £50 miliwn hwnnw, fydd yn mynd i feddygfeydd teulu i leddfu'r pwysau y mae meddygfeydd teulu yn benodol yn eu hwynebu wrth fodloni’r galw ychwanegol y maen nhw’n ei wynebu?
Wel, mae meddygfeydd teulu yn trefnu eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai yn cynnig apwyntiadau ar y diwrnod hwnnw, ac rwyf i wedi eu gweld. Bydd eraill, am resymau y bydd yn rhaid iddyn nhw eu hesbonio, yn aros am wythnos neu ddwy, neu’n hwy weithiau. Nid yw hynny’n dderbyniol i’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu, ond mae'r arian ar gyfer pwysau'r gaeaf wedi ei gynllunio, wrth gwrs, i sicrhau bod y gwasanaeth iechyd yn gallu ymdrin ag unrhyw bwysau a allai godi o ganlyniad i dywydd oerach, lle mae pobl yn dod i mewn gyda chyflyrau anadlol, er enghraifft. Rydym ni’n gwybod os cânt eu derbyn i adrannau damweiniau ac achosion brys gyda chyflyrau anadlol, eu bod nhw’n tueddu i gael eu derbyn ac aros yn hwy yn yr ysbyty. Ac rydym ni’n gwybod bod y byrddau iechyd, fel y maen nhw wedi ei wneud yn y blynyddoedd a fu, yn cynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, a bydd yr arian ar gael er mwyn iddyn nhw allu ymateb i’r pwysau hwnnw.
Nid cwestiwn tric oedd hwn, Brif Weinidog; rwyf i wir eisiau gweld yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i helpu pobl gael yr apwyntiadau sydd eu hangen arnynt. Mae pedwar deg y cant o bobl yn dweud eu bod nhw’n cael problemau’n cael apwyntiad ar y diwrnod y maen nhw’n ffonio eu meddygfeydd, pa bynnag ran o Gymru y maen nhw’n byw ynddi. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi ddweud sut yn union y gellir cyflwyno’r gwelliannau mewn meddygfeydd teulu, gyda’r arian ychwanegol hwn—y £50 miliwn a fydd yn mynd i mewn i'r sector acíwt a sylfaenol—i leddfu peth o'r pwysau hwnnw, ond, yn bwysig, sut, yn ystod oes y Cynulliad hwn, gyda'r gyllideb sydd gennych, y byddwch yn cynyddu’r gwasanaethau sydd ar gael yn y sector sylfaenol a chael mwy o feddygon teulu i mewn i feddygfeydd, lle bynnag y byddant yn dewis gweithredu yng Nghymru, gan ei bod yn amlwg nad yw hynny’n digwydd ar hyn o bryd.
Nid yw’n ymwneud â meddygon teulu yn unig; mae'n ymwneud â’r holl wasanaethau y mae'r gwasanaeth iechyd yn eu cynnig. Er enghraifft, gellir cyfeirio pobl oddi wrth orfod mynd i'r ysbyty os byddant yn cael cymorth gartref trwy wasanaethau cymdeithasol, a dyna pam, wrth gwrs, yr ydym ni wedi gwneud yn siŵr nad yw'r gyllideb gwasanaethau cymdeithasol wedi cael ei thorri i'r graddau y mae hynny wedi digwydd mewn mannau eraill. Rydym ni wedi sicrhau, wrth gwrs, mewn lleoedd nad yw meddygfeydd teulu yn bodoli mwyach, bod y bwrdd iechyd yn cymryd y meddygfeydd hynny drosodd a’u bod yn cynnig gwasanaeth gwell, mewn gwirionedd—eu bod yn cynnig gwasanaeth gwell a mwy cyfannol na'r hyn sydd wedi digwydd o'r blaen, fel y bydd pobl Prestatyn yn ei esbonio. Ond, wrth gwrs, rydym ni’n gwybod y bydd llawer o bobl a fydd yn gorfod cael eu derbyn i'r ysbyty, ac mae'n hynod bwysig bod yr arian hwnnw ar gael i’r ysbytai ymdrin ag unrhyw gynnydd ychwanegol i dderbyniadau i adrannau damweiniau ac achosion brys.
Brif Weinidog, rydym ni wedi gweld yr arian sy’n mynd i mewn i feddygfeydd teulu yn gostwng dros y pedair blynedd diwethaf—gostyngiad o £20 miliwn dros y pedair blynedd diwethaf. Dyna pam mae gan Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol ymgyrch ar hyn o bryd i gynyddu’r gyfran o gyllideb y GIG sy’n mynd i feddygfeydd teulu i 11 y cant o'r gyllideb erbyn 2020. A allwch chi ymrwymo i gyflawni’r dyhead hwnnw gan y coleg brenhinol ac, yn wir, a wnewch chi ymrwymo i gael mwy o feddygon teulu yng Nghymru ar ddiwedd y tymor Cynulliad hwn nag sydd gennym ar hyn o bryd? Rydym ni’n deall bod y pethau hyn yn cymryd amser, ond mae gennych chi bedair blynedd a hanner ar ôl o’r mandad nawr, pryd y gallwch chi wneud y newidiadau hynny, pryd y gallwch chi wneud y buddsoddiadau hynny y mae'r coleg brenhinol yn sôn amdanynt, ac y gallwch chi ddechrau recriwtio'r staff ychwanegol sydd eu hangen i greu’r porth hwnnw i mewn i'r GIG, o ystyried mai’r man cyswllt cyntaf i’r mwyafrif o bobl—90 y cant o bobl—yw eu meddygfa deulu.
Wel, mae coleg brenhinol yr ymarferwyr cyffredinol yn edrych arno o ran nifer y meddygon teulu yn unig. Nid yw hynny’n ddigonol. Mae'n rhaid i ni edrych ar weithwyr proffesiynol eraill, fel therapyddion galwedigaethol, fel nyrsys cymuned. Yr hyn nad ydym ei eisiau yw i bobl deimlo mai mynd i weld eu meddyg teulu yw’r man galw cyntaf bob amser. Byddai hynny'n mynd yn groes i’r hyn y mae Dewis Doeth wedi bod yn ei ddweud. Rydym ni’n gofyn i bobl fynd i weld fferyllydd yn gyntaf, i weld y nyrs sydd ar gael yn y practis mewn llawer o feddygfeydd teulu, ac yna gweld y meddyg teulu. Yr hyn na fyddwn eisiau ei wneud yw bod mewn sefyllfa lle mae pobl yn meddwl y gallant osgoi gweld nyrs neu fferyllydd a mynd at feddyg teulu gyda chyflwr a allai fod wedi cael ei drin yn hawdd yn rhywle arall. Ydym, wrth gwrs, ein bod ni eisiau gweld niferoedd digonol o feddygon teulu yng Nghymru, ond mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr hefyd bod dewisiadau eraill yn hytrach na gweld meddyg teulu er mwyn helpu i gymryd y pwysau oddi ar feddygon teulu.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Yn dilyn y cwestiwn gan Gareth Bennett yn gynharach am y darpar Arlywydd Trump, a wnaiff y Prif Weinidog gydnabod pwysigrwydd hanfodol masnach gyda'r Unol Daleithiau i Gymru? Mae dau ddeg dau y cant o'n hallforion yn mynd i'r Unol Daleithiau. Mae hynny'n gyfanswm o bron i £3 biliwn y flwyddyn. Dyna’r un gyrchfan genedlaethol fwyaf i’n hallforion, o'i chymharu â'r Almaen, er enghraifft, lle’r ydym ni’n allforio gwerth oddeutu £1 biliwn—traean yw hynny mewn cymhariaeth. Felly, beth bynnag yr ydym ni’n ei feddwl am yr unigolyn sydd ar fin dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, mae'n hanfodol bwysig i Lywodraeth Cymru gyd-dynnu â gweinyddiaeth yr Unol Daleithiau a’u hannog i fuddsoddi yng Nghymru a masnachu cymaint â phosibl â ni.
Wel, mae'n iawn i ddweud bod yr Unol Daleithiau yn farchnad bwysig i ni. Mae'r UE ddwywaith mor fawr fel marchnad ac yn yr un modd ag y mae e'n iawn bod yn rhaid i ni sicrhau ein bod ni’n parhau i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac allforio i'r Unol Daleithiau, mae’n rhaid i ni hefyd wneud yn hollol sicr ein bod ni'n gallu cael mynediad at farchnad sengl Ewrop ar yr un telerau â nawr. Pam y byddem ni eisiau peryglu ein lle yn y farchnad sengl fwyaf sydd gennym ni?
Wel, does neb eisiau gwneud hynny, wrth gwrs, ac mae bron pawb ym Mhrydain beth bynnag eisiau parhau i fasnachu gyda'r UE ar yr un sail ag yr ydym ni’n masnachu nawr, gyda mynediad di-dariff. Y perygl gyda'r UE yw y bydd y Comisiwn Ewropeaidd a lluoedd gwarchodol y tu mewn i'r UE yn awyddus i godi rhwystrau masnach yn ein herbyn, a fydd yn gwneud tro gwael a’u hunain, gan fod ganddyn nhw warged masnach enfawr gyda ni. Ond o ran yr Unol Daleithiau, hoffwn ddychwelyd at y pwynt hwn oherwydd dyna oedd pwynt fy nghwestiwn, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’w wneud beth bynnag fo polisïau domestig y darpar Arlywydd Trump i annog Llywodraeth yr Unol Daleithiau i adeiladu ar y duedd naturiol i fod yn gyfeillgar tuag at Brydain ac i annog masnach rhyngom? Mae gan yr Arlywydd Trump fuddiannau busnes yn y Deyrnas Unedig. Mae’n barod, fel y gwyddom o'r hyn y mae wedi ei ddweud, i roi Prydain ar flaen y ciw yn y trafodaethau ar gyfer cytundeb masnach rydd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i annog datblygiad y broses honno?
Wel, mae wedi dweud y bydd yn rhoi America yn gyntaf ac y bydd unrhyw gytundeb gyda'r DU yn rhoi America yn gyntaf a dyna beth mae'n rhaid i ni warchod yn ei erbyn yn hynny o beth. Byddwn yn parhau, fel yr ydym yn y gorffennol, gyda’n swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau, i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau a cheisio denu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid. Pam y byddai'n newid? Cefais fy synnu pan ddywedodd nad oes neb yn argymell tariffau oherwydd rwyf i wedi clywed pobl yn sôn am dariffau. Clywais David Davis yn sôn am dariffau. Rwyf i wedi clywed Liam Fox yn sôn am dariffau fel pe byddai tariffau’n ddibwys. Pam fyddem ni eisiau gwaethygu ein mynediad at ein marchnad sengl fwyaf? Mae hynny'n gwbl ddisynnwyr. Yn yr un modd, beth bynnag fo’r sefyllfa wleidyddol yn yr Unol Daleithiau, byddwn yn parhau i weithio gyda chwmnïau’r Unol Daleithiau, i ddenu buddsoddiad o'r Unol Daleithiau ac i hyrwyddo cynnyrch o Gymru ym marchnadoedd yr Unol Daleithiau. Ni fydd hynny'n newid.
A wnaiff y Prif Weinidog gydnabod efallai y gall UKIP gynorthwyo yn y broses hon? Mae’n siŵr y bydd wedi gweld y llun swynol a ymddangosodd yn ddiweddar iawn o arweinydd dros dro UKIP gyda darpar Arlywydd yr Unol Daleithiau, a beth bynnag y mae ef a minnau’n ei feddwl o’r ddau unigolyn hynny, serch hynny, i'r graddau y mae gennym ni gysylltiadau personol y gellir eu defnyddio er lles Cymru, yna dylid eu defnyddio. Yn y ddogfen, ‘Symud Cymru Ymlaen’, a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth yn gymharol ddiweddar, mae'n dweud:
‘Bydd ein llywodraeth ni yn un agored, yn croesawu syniadau newydd ac yn barod i weithio gydag eraill.'
A yw'r Prif Weinidog yn fodlon gweithio gydag UKIP er budd Cymru?
Yr unig beth y mae Nigel Farage wedi ei redeg yw i ffwrdd. Nid yw erioed wedi rhedeg dim. Mae’n unigolyn nad oes ganddo unrhyw brofiad o ran rhedeg unrhyw beth nac o ran diplomyddiaeth. Mae'r syniad o Nigel Farage fel diplomydd yn gyfwerth â rhoi llif gadwyn i blentyn, mae'n ymddangos i mi. Do, fe wnes i weld y lluniau o Nigel Farage, ond heb ei babi, ar Ddydd y Cofio—pwynt a wneuthum ddoe—er bod Arron Banks, y dyn arian, yn gwisgo pabi. Mae'n un peth i UKIP ddweud pa mor bwysig yw hi i gofio—ac maen nhw’n gywir yn hynny o beth. Mae'n un peth i Nigel Farage ddweud ei fod eisiau bod yn y Senotaff ac mae hwnnw'n bwynt y mae’n gallu ei wneud. Ond, nid oedd mewn gorymdaith goffa ddoe, nid oedd yn gwisgo pabi hyd yn oed. Pe byddai Mark Reckless wedi gwneud hynny, byddai wedi cael ei feirniadu. Pe byddai Neil Hamilton wedi gwneud hynny, byddai wedi cael ei feirniadu. Pe byddai unrhyw un ohonom ni yn y Siambr hon wedi gwneud hynny, yna byddem ni wedi cael ein beirniadu, ond mae Nigel fawr y tu hwnt i feirniadaeth. Wel, mae gen i ofn iddo gael ei ddadwneud gan ei ddadl ei hun ddoe. Nid yw rhywun nad yw’n ddigon doeth i beidio â chael tynnu ei lun ar Sul y Cofio mewn digwyddiad, yn gwenu, heb babi, yn haeddu cael unrhyw fath o swyddogaeth ddiplomyddol.