<p>Gwella Iechyd y Cyhoedd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:50, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Brif Weinidog. Mae ffigur Llywodraeth Cymru yn datgelu bod mwy na 60,000 o bobl wedi mynychu gwasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol rhwng mis Ionawr a mis Mawrth eleni, ac mai dim ond 13 y cant a gwblhaodd y driniaeth yn llwyddiannus. Mae hynny'n golygu na chwblhaodd 87 y cant o bobl y driniaeth. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd y gwasanaethau triniaeth cyffuriau ac alcohol yng Nghymru, sy’n amlwg yn methu â helpu mwyafrif y rhai sydd eu hangen nhw yma?