<p>Gwella Iechyd y Cyhoedd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:51, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rydym ni’n gwybod pan ddaw i adsefydlu yn dilyn cymryd cyffuriau, ei bod hi’n ffordd hirfaith i lawer iawn o bobl. I rai, nid ydynt yn llwyddo ar y cyfle cyntaf i roi'r gorau i'r arfer. Rydym ni’n gwybod i lawer ei bod yn broses sy'n cymryd cryn amser. Os edrychwn ni ar ein strategaeth camddefnyddio sylweddau, daeth yr adolygiad o honno i'r casgliad bod prif elfennau'r strategaeth wedi cael eu gweithredu. Fe wnaeth nodi nifer o feysydd lle byddai gwaith ychwanegol yn sicrhau mwy o fuddion, a chafodd camau gweithredu eu cynnwys yng nghynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau 2013-15, er mwyn bwrw ymlaen â'r argymhellion hynny.