<p>Gwella Iechyd y Cyhoedd </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:52, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Gwn fod meddygfeydd teulu yn arbennig wedi bod yn arbennig o ragweithiol o ran sicrhau bod pobl yn ymwybodol o frechiadau rhag y ffliw, ac yn ymwybodol yn arbennig o frechiadau rhag y ffliw sydd ar gael am ddim i grwpiau agored i niwed. Ac mae hynny wedi bod yn llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, a diolchaf i feddygfeydd teulu—a fferyllwyr, o ran hynny—am y gwaith y maen nhw wedi ei wneud.