Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, mae eich agenda ataliol yn bwysig i sicrhau iechyd y cyhoedd da i bobl yng Nghymru. Mae brechiadau yn rhan o'r agenda ataliol hwnnw, ac yn yr achos hwn yn benodol, brechiadau rhag y ffliw. Rydym ni wedi gweld gwelliannau o ran y nifer sy’n manteisio, ond ceir her i staff rheng flaen y GIG o hyd. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod staff rheng flaen y GIG yn cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar frechiadau rhag y ffliw i sicrhau y gallant gyflawni?