Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Rŷm ni wrthi’n ailedrych ar y sgôp ar gyfer denu digwyddiadau busnes rhyngwladol mawr i Gymru. Byddai angen i unrhyw benderfyniad i gyflwyno cais am ddigwyddiad o’r fath roi ystyriaeth fanwl i’r costau a’r enillion o’r buddsoddiad.