<p>Expo’r Byd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:55, 15 Tachwedd 2016

Wrth gwrs, mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi dweud y bydden nhw’n cefnogi cais o Brydain i gynnal yr Expo am y tro cyntaf, wrth gwrs, ers dros 150 o flynyddoedd. Mae Manceinion eisoes wedi datgan eu bod nhw’n bwriadu rhoi cais i mewn ar gyfer y prif Expo yn 2025, gan anelu at 28 miliwn o ymwelwyr. Mae hynny’n dair gwaith, bron, o gymharu â’r Gemau Olympaidd. O ystyried y budd, oni ddylai fod Cymru’n rhoi cais gerbron hefyd?