Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Wel, ar hyn o bryd, wrth gwrs, mae’n rhaid ystyried yn gyntaf beth yw’r gost i ni, yn ail, wrth gwrs, ble yn gwmws byddai safle’r Expo, ac mae’r rhain yn bethau rŷm ni’n eu hystyried ar hyn o bryd. Rŷm ni’n gwybod bod cost yr Expo yn mynd lan yn fwy na £1 biliwn, felly mae’n rhywbeth sydd yn sylweddol ynglŷn â chost, ond fe wnawn ni ystyried beth sy’n bosibl yn y pen draw.