<p>Trais a Hunanladdiad mewn Carchardai</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:03, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Pwynt diddorol, ond nid yw mor hawdd â hynny, oherwydd nid oes gennym ni’r ystâd carchardai hunangynhwysol. Er enghraifft, byddai’n dal i fod angen i chi brynu i mewn, fel petai, lleoedd mewn carchardai yn Lloegr, am bris y byddai Lloegr yn dymuno ei godi—ni fyddai gennym ni unrhyw reolaeth benodol dros hynny. Rydym ni’n brin o garchardai diogelwch uchel penodol hefyd, felly mae’n rhaid archwilio hyn i gyd er mwyn sicrhau na fydd gennym ni, yn y pen draw, reolaeth dros garchardai, nad oes gen i unrhyw wrthwynebiad iddo mewn egwyddor, a dweud y gwir, gytundeb ariannol sy'n llawer, llawer gwaeth yn y pen draw. Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ni fu gennym ni’r system carchardai hunangynhwysol honno erioed. Mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y bydd yn rhaid i ni feddwl amdano wrth ystyried datganoli carchardai.