Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Heddiw, roeddwn yn falch iawn unwaith eto o gynnal digwyddiad i nodi mis ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yma yn y Senedd. Y llynedd, pan ofynnais i chi am hyn, pwysais arnoch ar yr angen i godi ymwybyddiaeth. Eleni, mae Pancreatic Cancer UK wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos na all tri chwarter y cyhoedd yn y DU enwi unrhyw symptom o ganser y pancreas. A fyddech chi’n cytuno â mi bod angen newid sylweddol arnom yn y maes hwn nawr, ac a wnewch chi gytuno i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod beth i chwilio amdano, fel eu bod yn mynd at y meddyg yn gyflym a rhoi gwell cyfle i’w hunain o oroesi canser sy’n ymosodol ac yn anodd iawn ei drin?