1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2016.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yng Nghymru? OAQ(5)0262(FM)
Mae cynllun cyflawni ar ganser Cymru wedi’i adnewyddu, a lansiwyd heddiw, yn parhau i gynnwys ymrwymiad i gyflwyno rhaglen o ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o ganser, gan gynnwys canser y pancreas.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Heddiw, roeddwn yn falch iawn unwaith eto o gynnal digwyddiad i nodi mis ymwybyddiaeth o ganser y pancreas yma yn y Senedd. Y llynedd, pan ofynnais i chi am hyn, pwysais arnoch ar yr angen i godi ymwybyddiaeth. Eleni, mae Pancreatic Cancer UK wedi gwneud gwaith ymchwil sy'n dangos na all tri chwarter y cyhoedd yn y DU enwi unrhyw symptom o ganser y pancreas. A fyddech chi’n cytuno â mi bod angen newid sylweddol arnom yn y maes hwn nawr, ac a wnewch chi gytuno i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cyhoedd yn gwybod beth i chwilio amdano, fel eu bod yn mynd at y meddyg yn gyflym a rhoi gwell cyfle i’w hunain o oroesi canser sy’n ymosodol ac yn anodd iawn ei drin?
Anodd dros ben: rwyf wedi ei weld mewn mwy nag un unigolyn yn fy nheulu, ac, ar ôl cael diagnosis ohono, mae'n anobeithiol. Dyna’r ffordd arferol gyda chanser y pancreas ar hyn o bryd—cyfradd oroesi o 4 y cant. Yr anhawster, wrth gwrs, yw bod y symptomau yn eithaf cyffredinol ac amhenodol, a gallant fod yn symptomau o unrhyw nifer o gyflyrau. Wedi dweud hynny, mae'r cynllun cyflawni ar ganser yn cynnwys yr ymrwymiad i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth cenedlaethol rheolaidd. O ystyried y ffaith nad yw canser y pancreas, mae'n ymddangos i mi, yn fath o ganser arbennig o anghyffredin, ac o ystyried ei natur farwol, mae angen i ni weithio gyda'r proffesiwn meddygol i gynorthwyo nid yn unig cleifion, ond meddygon teulu hefyd, o ran eu gallu i adnabod y canser cyn gynted â phosibl, er mor anodd yw hynny.
Brif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi’n ymwybodol na fu unrhyw welliant i gyfraddau goroesi ar gyfer canser y pancreas yn ystod y 40 mlynedd diwethaf, er gwaethaf y camau rhyfeddol yr ydym ni wedi eu gwneud mewn llawer o feddyginaethau eraill a chyda llawer o gyflyrau eraill. Nawr, ceir prosiect ymchwil ar hyn o bryd sy’n casglu samplau o chwe ysbyty ar draws Gymru a Lloegr, gan gynnwys Singleton yn Abertawe, ac mae'n cael ei gynnal i ffurfio cronfa o feinweoedd a fydd yn helpu gwyddonwyr i astudio newidiadau genetig i’r celloedd canser. Y nod fydd helpu i ganfod achosion yn gyflymach, oherwydd, fel yr ydym ni newydd ei drafod, pan gaiff y canser ei ganfod, mae ychydig yn rhy hwyr fel rheol. Brif Weinidog, a wnewch chi gymryd golwg ar y prosiect hwn a gweld a oes unrhyw gymorth y gallai eich Llywodraeth ei roi i gefnogi'r prosiect hwn, naill ai trwy ein cyfleusterau ymchwil neu o ran cyllid i geisio symud yr agenda hon yn ei blaen?
Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni wrthi’n ariannu treialon ymchwil ar gyfer canser y pancreas trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hynny mewn cydweithrediad â Cancer Research UK. Mae ymchwilwyr yng Nghymru hefyd yn rhan o'r grŵp astudio Ewropeaidd ar gyfer treialon canser y pancreas. Mae hynny'n cynnwys astudiaethau seiliedig ar boblogaeth o ragdueddiadau genetig i ganser y pancreas. Felly, oes, mae rhywfaint o waith eisoes yn cael ei ariannu gennym ni fel Llywodraeth. Mae hi'n iawn i nodi nad yw cyfraddau goroesi wedi newid ers amser maith, felly, mae dod o hyd i ffyrdd lle gellir gwella diagnosis cynnar yn gwbl hanfodol i gynyddu cyfraddau goroesi pum mlynedd yn y dyfodol.