Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Gallaf ddweud wrth yr Aelod ein bod ni wrthi’n ariannu treialon ymchwil ar gyfer canser y pancreas trwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae hynny mewn cydweithrediad â Cancer Research UK. Mae ymchwilwyr yng Nghymru hefyd yn rhan o'r grŵp astudio Ewropeaidd ar gyfer treialon canser y pancreas. Mae hynny'n cynnwys astudiaethau seiliedig ar boblogaeth o ragdueddiadau genetig i ganser y pancreas. Felly, oes, mae rhywfaint o waith eisoes yn cael ei ariannu gennym ni fel Llywodraeth. Mae hi'n iawn i nodi nad yw cyfraddau goroesi wedi newid ers amser maith, felly, mae dod o hyd i ffyrdd lle gellir gwella diagnosis cynnar yn gwbl hanfodol i gynyddu cyfraddau goroesi pum mlynedd yn y dyfodol.