<p>Cau’r Bwlch Cyflog rhwng Menywod a Dynion </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:07, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Fawcett yr wythnos diwethaf yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau fesul awr llawn amser yng Nghymru yn 7.1 y cant, sy’n is na chyfartaledd y DU, ond yn erbyn cefndir o gyflogau is yng Nghymru. Ar sail y DU gyfan, mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn golygu bod menywod yn gweithio am ddim i bob pwrpas o 10 Tachwedd, pan fyddwch chi’n cymharu eu cyflogau gyda rhai dynion, tan ddiwedd y flwyddyn. Felly, beth arall allem ni ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hynod amlwg hwn?