Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Rydym ni’n gefnogwyr balch o Chwarae Teg, sydd, wrth gwrs, yn gweithio'n ddiflino i herio stereoteipiau rhyw, gwahanu galwedigaethol, ac i hybu arferion gweithle modern trwy, er enghraifft, rhaglen Cenedl Hyblyg 2 ac ymgyrchoedd fel Not Just for Boys, ond rydym ni hefyd yn parhau i herio stereoteipiau rhyw. Cynhaliwyd cynadleddau Mae Merched yn Gwneud Gwahaniaeth yn 2014 a 2015, gan annog merched i ddyheu ac i gyflawni yng Nghymru.