Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Yr anhawster, wrth gwrs, yw bod llawer o'r hyn yr ydym ni’n ei brynu yn dod o'r tu allan i’r UE hyd yn oed. O ran Tsieina yn arbennig, mae’r deunydd pacio yn sylweddol oherwydd y pellter y bydd nwyddau yn ei deithio. Felly, mae anhawster i mi ddweud, 'Iawn, rydym ni’n mynd i gael cylch caeedig yng Nghymru', gan fod Cymru mor fach. Rwy’n meddwl bod lle i’w wneud ar lefel y DU ac ar lefel yr UE i annog cael llai—fel bod llai o wastraff posibl ar ddechrau'r broses er mwyn peidio â gorfod ymdrin â’r deilliannau yn y diwedd. Ond, i mi, mae hyn yn rhywbeth y dylid ymdrin ag ef ar lefel lawer mwy, ar lefel rhyngwladol, ar lefel byd-eang, er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau cyfanswm y gwastraff posibl yn y lle cyntaf.