<p>Cysylltiadau Masnach a Thrafnidiaeth ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:14, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Brif Weinidog, mae dau o'r llwybrau masnach pwysicaf gydag Iwerddon yn rhedeg trwy Gymru, yn y gogledd a'r de, ac maen nhw wedi derbyn arian sylweddol dros y blynyddoedd o raglenni Ewropeaidd, a, chan ein bod yn gweld Llywodraeth y DU yn dweud bod buddsoddi mewn seilwaith yn allweddol nawr, ar ôl Brexit, a allwch chi ein sicrhau eich bod yn trafod y materion hyn gyda nhw a Gweriniaeth Iwerddon, gan fod cynnal ansawdd ein porthladdoedd a'r ffyrdd a’r rheilffyrdd sy'n eu gwasanaethu yn hanfodol?