<p>Cysylltiadau Masnach a Thrafnidiaeth ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 15 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wel, mae problemau i ni. Codwyd mater y ffin yn Iwerddon, gan eraill heblaw fi. Mae Llywodraeth y DU wedi cyfaddef na fydd y DU yn rheoli ei ffiniau, gan ei bod wedi dweud nad yw eisiau gweld ffin gaeedig rhwng Gogledd Iwerddon a'r weriniaeth. Nid oes gen i unrhyw ddadl nac anghytundeb â'r penderfyniad hwnnw, ond mae'n golygu, wrth gwrs, y bydd gan y DU ffin agored gyda'r UE. Os gallwch chi gael i mewn i Weriniaeth Iwerddon, gallwch chi gael i mewn i'r DU. Ni fydd dim i’ch atal chi. Mae hynny’n mynd yn groes, wrth gwrs, i’r hyn a ddywedodd rhai yn refferendwm yr UE.

Beth yw'r goblygiadau i Gymru? Wel, ar un adeg, roedd rheolaethau tollau yn nhri phorthladd Cymru sydd â fferïau o Iwerddon—rwy’n eu cofio’n iawn—ond archwiliadau tollau ar hap oedden nhw. Nid oedd pawb yn cael eu harchwilio. Ond ni fu rheolaethau pasbort yn y terfynfeydd fferi hynny erioed, felly pe byddai ffin gaeedig rhwng y DU a'r UE trwy Iwerddon, byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, rheolaethau pasbort yn y porthladdoedd fferi, nad ydynt yn barod ar eu cyfer, ac oediadau. Byddai tagfeydd, yn enwedig yn mynd i mewn i’r porthladdoedd hynny. Felly, nid oes neb eisiau gweld ffin yn cael ei chyflwyno rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon, ond nid oes neb wedi gweithio allan sut i'w osgoi eto.