Part of the debate – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Lywydd, rwyf wedi egluro teitl datganiad yr Ysgrifennydd addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig y prynhawn yma, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar gyflogadwyedd at yr agenda heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi'i nodi yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.