– Senedd Cymru am 2:16 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i’n galw ar Jane Hutt.
Lywydd, rwyf wedi egluro teitl datganiad yr Ysgrifennydd addysg ar y strategaeth genedlaethol ar gyfer ysgolion bach a gwledig y prynhawn yma, ac rwyf wedi ychwanegu datganiad llafar ar gyflogadwyedd at yr agenda heddiw. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y mae wedi'i nodi yn y datganiad a’r cyhoeddiad busnes ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Mae dau ddatganiad y byddaf i’n gofyn amdanyn nhw. Yn gyntaf, es i i ddau gyfarfod cyhoeddus yn Butetown ddydd Gwener ac mae llawer o ddicter yn y gymuned oherwydd bod pobl, dafliad carreg o’r Cynulliad hwn, yn chwistrellu, mae cannoedd o nodwyddau sydd wedi’u defnyddio ar hyd y lle, mewn rhai achosion mae plant yn chwarae gyda nhw, ac mae cyffuriau dosbarth A yn cael eu cyflenwi yn agored. Felly, a wnaiff y Llywodraeth roi datganiad o gefnogaeth, yn ddelfrydol? Yn rhan o'r ateb, mewn gwirionedd, a wnewch chi gefnogi parthau chwistrellu diogel dan do â goruchwyliaeth feddygol, fel y gallwn dynnu’r bobl fwyaf anffodus hyn allan o amgylchedd y stryd, fel y gallant chwistrellu yn ddiogel, a lleihau nifer y nodwyddau sydd ar y strydoedd hefyd?
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Yn wir, codwyd hyn rai wythnosau yn ôl mewn datganiad busnes a oedd yn edrych ar brofiad Glasgow o sefydlu uned o'r fath. Mi wnes i roi sicrwydd i’r Aelodau bryd hynny y byddem yn edrych ar ganlyniadau’r prosiect hwnnw ac yn rhoi ystyriaeth i brofiadau’r cymdogaethau a’r cymunedau, ac yn wir y plant a’r bobl ifanc sy’n agored i niwed, yn y sefyllfa honno.
Paul Davies.
Mae'n ddrwg gennyf, rydych chi wedi cael eich datganiad chi. [Torri ar draws.] Ymgais dda. Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, byddwn i’n ddiolchgar pe gallech ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, os gwelwch yn dda, i gyflwyno datganiad ar y bwriad i gau canghennau Banc Lloyds ledled Cymru. Lywydd, dylwn i ddatgan buddiant fel cyn-weithiwr i Grŵp Bancio Lloyds. Nawr, gwn nad fi yw'r Aelod Cynulliad cyntaf i godi’r mater ynghylch cau banciau yn y Siambr, ac yr wyf yn amau nad fi fydd yr olaf, ond mae’r cyhoeddiad diweddar hwn o ran Sir Benfro yn gwbl anghymesur â nifer y canghennau y mae Banc Lloyds yn bwriadu eu cau ledled y wlad, o ystyried bod tair o'r 49 o ganghennau y bwriedir eu cau yn digwydd bod yn fy etholaeth i. Wrth gwrs, mae’r banciau hyn yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny ac o’u cwmpas, a byddai eu cau yn cael effaith ddinistriol. Felly, a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gyflwyno datganiad ar y mater hwn fel y gall pobl sy'n byw yn y cymunedau y mae hyn yn effeithio arnyn nhw ddeall yn union beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i liniaru effeithiau negyddol yr achosion hyn o gau canghennau ar gymunedau yn fy etholaeth i, ac yn wir ledled Cymru?
Mae Paul Davies yn codi mater pwysig iawn, ac yn wir, fel yr ydych wedi’i ddweud, mae’r achosion hyn o gau canghennau, sydd yn benderfyniadau masnachol gan fanciau, yn cael effaith negyddol iawn ar y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwyf ar ddeall nad oes disgwyl cau y tri Banc Lloyds yr ydych yn cyfeirio atyn nhw yn eich etholaeth chi yn Sir Benfro tan y gwanwyn nesaf, felly rwy'n siŵr eich bod yn manteisio, fel y bydd eraill yn ei wneud, ar gyfleoedd i godi eich pryderon gyda’r banc. Hefyd, bydd cyfleoedd i godi cwestiynau gydag Ysgrifenyddion y Cabinet ar y mater. Wrth gwrs, dyma fater, unwaith eto, pan yr ydym yn edrych ar ei effaith, nid yn unig mewn ardaloedd gwledig fel Preseli Sir Benfro, ond ledled Cymru, ac mewn cymunedau mwy trefol, sydd hefyd yn colli’r gwasanaethau hanfodol hynny erbyn hyn, megis y banciau.
Rydym wedi clywed llawer am y newidiadau a gynigir o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Caerdydd. Gofynnaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynigion o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, yn benodol y cynigion megis ailagor gorsafoedd trenau, gwneud rhagor o’r A40 yn ffordd ddeuol, creu cysylltiadau bws a thrên a gwella’r ddarpariaeth o ran llwybrau beicio.
Mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, lle y mae angen i ni gyfeirio at y cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol o ran mesurau i sicrhau bod rhanbarth Bae Abertawe wedi’i gysylltu, fel y dywedwch, o ran agor gorsafoedd trenau lle bo hynny'n briodol, gan sicrhau, yn bennaf, fod gennym rwydwaith trafnidiaeth dibynadwy, modern ac integredig. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth yr wyf yn gwybod bod bwrdd y dinas-ranbarth yn edrych arno, o ran nodi blaenoriaethau ar gyfer twf a swyddi, gan edrych yn benodol ar seilwaith digidol a thrafnidiaeth y rhanbarth.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn gyntaf oll ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn penderfynu defnyddio’r lefi prentisiaethau? Rwy’n deall bod Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyhoeddi faint o arian fydd yn cael ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o dan y ‘lefi. Ond, wrth gwrs, fel sydd newydd gael ei grybwyll gan y Prif Weinidog, mae hynny’n cynnwys arian sy’n cael ei dalu gan gwmnïau a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru tuag at y lefi yn y lle cyntaf. Mae eisiau deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r lefi yma, yn enwedig, er enghraifft, yn achos pobl fel Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi codi gyda fi y ffaith eu bod nhw, fel corff cyhoeddus, yn talu lefi prentisiaethau, ond, wrth gwrs, yn draddodiadol, nid yw’r heddlu yn defnyddio prentisiaid—maen nhw’n defnyddio dulliau eraill o hyfforddi pobl newydd. Felly, mae angen inni ddeall sut y mae’r Llywodraeth am ddefnyddio’r lefi yn y modd yna ac ymateb i ofidiau pobl fel Heddlu Gogledd Cymru.
Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei glywed yw a yw’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb o gwbl i argymhelliad y crwner mewn achos anffodus iawn yn sir Benfro o farwolaeth criw llong bysgota yr Harvester. Bu farw dau ddyn o Gaeriw yn y môr oherwydd anffawd, ond un o’r ffactorau a nodwyd yn y cwest oedd y ffaith nad oedd y ddau, fel pysgotwyr, yn gwisgo siacedi achub. Roedd y crwner wedi cydnabod bod yna ‘ddiwylliant’, meddai fe, o beidio â gwisgo siacedi achub o ran pysgotwyr. Mae e am gysylltu’n uniongyrchol ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn ei wneud yn orfodol i bysgotwyr o borthladdoedd ym Mhrydain wisgo siacedi achub. Gan fod pysgodfeydd, os nad y materion iechyd a diogelwch yma, wedi’u datganoli, a yw hi’n fwriad gan y Llywodraeth hefyd i wneud datganiad ar y mater yma a hefyd i gysylltu â’r crwner ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn deall beth all gael ei wneud yn awr yng Nghymru i ddiogelu a chynyddu diogelwch ar y moroedd?
Diolch, Simon Thomas. O ran eich cwestiwn cyntaf, ynglŷn â chyllid ar gyfer yr ardoll prentisiaethau, byddwch yn gwybod, ac adroddwyd yn ôl arno mewn cwestiynau a godwyd gyda'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, am drafodaethau helaeth rhwng Llywodraeth Cymru, gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU ers cyhoeddi'r ardoll prentisiaethau. Rwy'n credu bod angen edrych yn ofalus ar y ffigurau hyn gan Lywodraeth y DU, gan nad ydynt yn golygu bod arian newydd sylweddol yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll prentisiaethau. Rydych yn codi pwynt dilys iawn ynghylch pwy sy'n talu hyn ar draws y sector preifat a'r sector cyhoeddus, ond gadewch i ni edrych ar yr hyn y mae'r arian hwn yn ei olygu—mae'n ymwneud yn bennaf, mewn gwirionedd, â chronfeydd sydd eisoes yn rhan o'n setliad yn sgil yr adolygiad o wariant ac sydd wedi eu cynnwys yn y gyllideb ddrafft. Felly, mae'n rhaid i ni fod yn realistig, a bydd y trafodaethau hynny, rwy'n gwybod, yn parhau ynglŷn â’r effaith ar y sector cyhoeddus yn ogystal ag ar y sector preifat, ynglŷn â chyflogwyr a’r hyn y mae’n ei olygu iddyn nhw, o ran fformiwla Barnett.
Mae eich ail bwynt yn bwysig iawn i ni, oherwydd bod diogelwch ar y môr yn egwyddor allweddol o bolisi rheoli pysgodfeydd Llywodraeth Cymru. Rydych chi wedi cyfeirio at un farwolaeth drasig eisoes, ac yn 2016, rydym wedi dioddef marwolaethau trasig tri physgotwr o Gymru—marwolaethau cwbl annerbyniol. Felly, rydym wedi blaenoriaethu mynediad at gyllid o gronfa’r môr a physgodfeydd gyfredol Ewrop, ac adlewyrchir hyn hefyd yn strategaeth bwyd môr Cymru a gyhoeddwyd gan Lesley Griffiths ar 13 Hydref, ac rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol ohoni: ymrwymiad i wella diogelwch pysgotwyr, lleihau risgiau, gan weithio gyda nhw—gyda'r diwydiant pysgota a rheoleiddwyr eraill y môr. Mae trafodaethau gweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, y diwydiant pysgota, Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, a Seafish ynghylch diogelwch pysgotwyr, ac mae'n rhaid i mi ddweud, unwaith eto, fod hyn yn edrych ar arwyddocâd yr Undeb Ewropeaidd i ni, gan fod cyllid sylweddol wedi ei gyfeirio at offer diogelwch ar gyfer y diwydiant pysgota drwy gronfa pysgodfeydd flaenorol Ewrop.
Galwaf am ddau ddatganiad, a’r cyntaf yn ymwneud â swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gefnogi merched sydd ag anghenion lluosog. Mae hyn yn dilyn adroddiad am hynny, o'r enw ‘Leading Change’, a anfonwyd ataf gan Ganolfan Merched Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf. Maen nhw’n dweud, er ei fod o safbwynt Lloegr, ei fod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i'n nodau a’n cydweithio a’n comisiynu yma yng Nghymru. Mae'n nodi—cyfeiriad bach iawn—fod rhwng hanner a dwy ran o dair o’r merched sydd yn y carchar yn dioddef o iselder, a bod bron eu hanner wedi ceisio cyflawni hunanladdiad, ac mae'n galw ar awdurdodau lleol i adolygu eu hasesiadau strategol ar y cyd o anghenion, eu strategaethau iechyd a lles ar y cyd a’u strategaethau atal hunanladdiad, er mwyn sicrhau y caiff anghenion merched eu diwallu yn unol â hynny. Mae hefyd yn galw am sicrhau bod merched sydd ag anghenion lluosog yn cymryd rhan yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu ymatebion newydd a gwell, gan weithio gyda merched i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad llafar ar y mater pwysig iawn ynghylch cymorth yn y dyfodol i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol? Datganolodd Llywodraeth y DU y cyfrifoldeb am hyn i Lywodraeth Cymru o 30 Mehefin y llynedd ymlaen. Penododd yr Alban reolwr busnes amser llawn ar gyfer y gronfa byw’n annibynnol a sefydlodd gynorthwyydd prosiect o fewn Inclusion Scotland, chwaer-gorff i Anabledd Cymru, fisoedd o flaen llaw; a phenodwyd ILF Scotland gan Ogledd Iwerddon i weinyddu'r Gronfa Byw'n Annibynnol i Ogledd Iwerddon. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, yr oeddwn innau’n ei gyd-gadeirio yn y Cynulliad diwethaf ac y gofynnwyd i mi ei gadeirio yn y Cynulliad hwn, wedi derbyn tystiolaeth ynghylch gweithredu grant byw'n annibynnol Cymru o 1 Gorffennaf y llynedd, ac, yn sgil nodi pryderon eang, ysgrifennwyd at y Gweinidog ar y pryd, cafwyd ymateb, ac yna cyhoeddodd ddatganiad ysgrifenedig ar hyn ym mis Chwefror, gan ddweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar ddewisiadau, gan gynnwys trefniant posibl gyda'r corff a sefydlwyd yn yr Alban i ddarparu taliadau i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol i wneud yr un peth i bobl Cymru. Ac ar y pryd, gallaf gadarnhau bod aelodau grŵp cyfeirio anabledd Cymru yn ffafrio’r dull gweithredu hwn. Er hyn, rydym bellach wedi cael, y mis hwn, ddatganiad ysgrifenedig yn unig gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol, yn nodi ei bod wedi dod i'r casgliad y bydd cymorth i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol, yn y dyfodol yn mynd trwy’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol arferol gan awdurdodau lleol, gan mai dyma’r dull mwyaf effeithiol, ac mae hi'n cydnabod y byddai rhai derbynwyr wedi dewis penderfyniad gwahanol. Nid yw’r methiant hwn, mae'n ymddangos, yn y datganiad hwn, i gyd-lunio, cyd-gynllunio, cyd-ddarparu a gweithio gyda dinasyddion a chymunedau yn bodloni gofynion y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol 2015, na’r cyfarwyddebau gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch cyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hyn yn effeithio ar fywydau gormod o bobl anabl, felly mae'n haeddu datganiad llafar, neu ddadl lawn, hyd yn oed, a galwaf am hyn yn unol â hynny.
Wel, mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig, gan gynrychioli ei etholwyr yn y gogledd, yn arbennig o ran Canolfan Merched Gogledd Cymru a'i harbenigedd. Rwyf innau wedi cwrdd â phobl pan oedd gennyf gyfrifoldeb gweinidogol, i sicrhau bod eu lleisiau, eu profiadau ac anghenion y merched y maen nhw’n eu cynrychioli ac yn eu cefnogi yn cael eu clywed a’u bod yn dylanwadu, nid yn unig ar bolisi Llywodraeth Cymru, ond ar bolisi lleol a rhanbarthol, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Rydych yn codi materion pwysig, lle y gallan nhw ein cynorthwyo, nid yn unig wrth ymateb, ond wrth lunio polisi priodol. Rwy'n ddiolchgar eich bod wedi codi hynny ar ran merched yn y gogledd.
Ond, ynglŷn â’ch ail bwynt, rwyf yn ei chael yn anhygoel—. Mor aml, Mark Isherwood, byddwch chi’n dechrau siarad ac yn aml yn codi cwestiynau perthnasol ynglŷn â rhywbeth—y gronfa byw'n annibynnol, y cafodd eich Llywodraeth Geidwadol wared arni—i rai o'r bobl anabl fwyaf agored i niwed yng Nghymru. Rydym wedi ei hachub dros y blynyddoedd. Gwnaethom ei hachub drwy ddyrannu adnoddau gwerthfawr, i wneud yn siŵr y gallem barhau â'r gronfa byw'n annibynnol. A hefyd, croesawyd hyn gan y grwpiau hynny sy’n cynrychioli pobl anabl yng Nghymru, a thrwy weithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol yn ogystal, a gwneud yn siŵr bod gennym ddyraniadau ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn Llywodraeth Lafur Cymru, rydym yn ceisio diogelu pobl anabl yn y ffyrdd y gallwn ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd yn gynharach y prynhawn yma, ynglŷn â sut y mae pobl anabl yn cael eu heffeithio gan y toriadau yn sgil diwygio lles a’r newidiadau gan eich Llywodraeth Dorïaidd yn y DU.
Felly, oes, mae datganiad ysgrifenedig wedi ei gyflwyno. Wrth gwrs, bydd egluro a diweddaru ar hynny yn y dyfodol.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar raglen waith Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru? Er fy mod i’n croesawu cyflwyno’r gronfa triniaethau newydd yn fawr, a’r adolygiad o'r system ceisiadau cyllido cleifion unigol yng Nghymru, sy’n hir-ddisgwyliedig, yn fy marn i, rwyf yn pryderu y bydd mynediad at gyffuriau newydd yn parhau i gael ei gyfyngu gan yr amserlenni a nodwyd gan y Grŵp. Ar hyn o bryd, rwy’n ceisio helpu etholwr i gael gafael ar Avastin, ar gyfer canser ceg y groth. Mae ar gael ar y GIG yn Lloegr, ac yn yr Alban, ar gyfer canser datblygedig ceg y groth, sy’n rhoi fy etholwyr o dan anfantais, oherwydd bod y Grŵp dim ond yn dechrau ei werthuso yma.
Mae Lynne Neagle yn codi pwynt pwysig iawn, a dyma gyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ystyriaeth Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru. Maen nhw’n cwblhau, yr wyf ar ddeall, gwmpas ac amserlenni o ran gwerthuso Avastin. Ac, wrth gwrs, dyma sefyllfa lle y gwyddom fod cyfle i wneud ceisiadau drwy'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol, ar ran cleifion. Ond rwy'n credu mai’r gwerthusiad cyffredinol, wrth gwrs, yw’r hyn a geisir, a bydd hynny'n dod yn fuan iawn.
A gaf i alw am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda—un gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Gymraeg a dysgu gydol oes, ar gymorth i bobl ag anableddau dysgu sy'n mynd i addysg bellach? Bydd yn ymwybodol o'r pryderon a godwyd yr wythnos hon yn y cyfryngau ynghylch y system gymorth sydd ar gael i ddysgwyr mewn addysg bellach ôl-16 sydd ag anableddau dysgu. Wrth gwrs, mae datganiadau ar gael, y gellir cytuno arnyn nhw ag awdurdodau lleol, o ran pobl sy'n mynychu ysgolion, ond nid yw’r un system yn berthnasol i'r rhai mewn addysg bellach. Yn hytrach, rhoddir cyfle i Gyrfa Cymru benderfynu pa un a ddylai system gymorth fod ar gael. Ac nid oes unrhyw hawl i apelio yn erbyn y system honno os nad yw’r dysgwyr hynny yn cael y cymorth angenrheidiol.
Byddwn i’n ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog egluro a yw’n fodlon asesu’r sefyllfa hon, i weld a oes cyfle efallai i fynd i'r afael â'r annhegwch sydd i’w weld yn y system ar hyn o bryd, a, gobeithio, i sicrhau hefyd y gall Gyrfa Cymru ymestyn y cynnig o gymorth, o’r terfyn presennol, sef dwy flynedd, i dair blynedd, neu ragor, lle bo angen, oherwydd, wrth gwrs, efallai y bydd angen i rai o'r unigolion dan sylw fod mewn addysg ôl-16 a cholegau addysg bellach am gyfnod hwy na dysgwyr cyffredin, oherwydd eu hanableddau.
A gaf i hefyd gefnogi'r galwadau gan Simon Thomas am ddatganiad gan y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth ar yr ardoll prentisiaethau? Mae'n amlwg bod llawer o ddryswch i’w weld ymysg cyflogwyr, ac, yn wir, darparwyr hyfforddiant, yn enwedig o ran unigolion a allai gael eu cyflogi gan fusnesau yng Nghymru ond sydd mewn gwirionedd yn byw dros y ffin, a pha un a oes ganddynt hawl i gael cymorth neu beidio, dan yr ardoll. Roeddwn i’n synnu’n fawr o'ch clywed yn dweud nad oes llawer o arian yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll. Y gwirionedd yw y bydd £400 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Felly, rwyf yn awgrymu eich bod yn siarad â'ch Gweinidog cyllid, ac yn pennu sut yn union y bydd yr arian hwnnw yn cael ei wario. Rwyf i’n dymuno gweld yr arian yn cael ei wario ar gefnogi prentisiaethau ledled Cymru. Mae’n amlwg nad hynny—nid ydym yn cael yr argraff mai dyna fwriad y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae angen rhywfaint o eglurder ar hyn arnom—ac ar ddarparwyr hyfforddiant, cyflogwyr a gweithwyr hefyd.
Rwy'n credu bod y pwynt a wnewch am oedolion yn arbennig sydd ag anawsterau dysgu yn bwysig. Rydym wedi ymrwymo, ac mae hwn yn gyfle i ailddatgan—yn Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bawb yng Nghymru gyfle i gael mynediad at ein system addysg. Wrth gwrs, pan nodir darpariaeth arbenigol, mae Gweinidogion yn ystyried ceisiadau ac yn gwneud pob ymdrech i ymateb mewn modd amserol. Rydym ni o hyd yn ceisio ariannu darpariaeth sy'n rhedeg dros gyfnod tebyg i ddarpariaeth yn y sector addysg bellach prif ffrwd, ac rydym yn parhau i ystyried ceisiadau am ddarpariaeth hirach, yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Ond rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd edrych ar ein rhaglen trawsnewid anghenion dysgu ychwanegol, a’r cynlluniau hynny am ddeddfwriaeth ddiwygiedig, wrth gwrs, i ddarparu cyfnod pontio mwy esmwyth. Mae'r canllawiau yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd i wneud yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei ariannu trwy’r llwybrau hynny yn gliriach. Felly, mae hynny'n bwynt pwysig iawn i ddychwelyd iddo.
O ran eich ail bwynt, rwy'n credu y bydd y Gweinidog yn awyddus yn sicr i egluro beth y bydd hyn yn ei olygu mewn gwirionedd i gyflogwyr o ran yr ardoll prentisiaethau. Rwyf wedi dweud nad yw’r ffigurau a roddwyd gan Lywodraeth y DU yn golygu y bydd arian newydd sylweddol yn dod i Gymru yn sgil yr ardoll prentisiaethau. Felly, rwy’n credu bod angen egluro ac esbonio beth y mae hynny'n ei olygu mewn gwirionedd, oherwydd, wyddoch chi, fod yn rhaid i chi gydnabod y bydd hyn yn ffurfio rhan o'n setliad, ac felly y bydd yn fater o, unwaith eto, y dyraniad a gawn drwy ein grant bloc. Ni fydd yr hyn yr ydych chi’n awgrymu y bydd, yn fy marn i, heddiw.
Diolch i’r Gweinidog.