Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Rydym wedi clywed llawer am y newidiadau a gynigir o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Caerdydd. Gofynnaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y cynigion o ran trafnidiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, yn benodol y cynigion megis ailagor gorsafoedd trenau, gwneud rhagor o’r A40 yn ffordd ddeuol, creu cysylltiadau bws a thrên a gwella’r ddarpariaeth o ran llwybrau beicio.