2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 15 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:21, 15 Tachwedd 2016

A gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, yn gyntaf oll ynglŷn â sut y mae’r Llywodraeth yn penderfynu defnyddio’r lefi prentisiaethau? Rwy’n deall bod Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyhoeddi faint o arian fydd yn cael ei ddosbarthu i Lywodraeth Cymru yn y flwyddyn gyntaf a’r ail flwyddyn o dan y ‘lefi. Ond, wrth gwrs, fel sydd newydd gael ei grybwyll gan y Prif Weinidog, mae hynny’n cynnwys arian sy’n cael ei dalu gan gwmnïau a’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru tuag at y lefi yn y lle cyntaf. Mae eisiau deall sut y mae’r Llywodraeth yn bwriadu defnyddio’r lefi yma, yn enwedig, er enghraifft, yn achos pobl fel Heddlu Gogledd Cymru, sydd wedi codi gyda fi y ffaith eu bod nhw, fel corff cyhoeddus, yn talu lefi prentisiaethau, ond, wrth gwrs, yn draddodiadol, nid yw’r heddlu yn defnyddio prentisiaid—maen nhw’n defnyddio dulliau eraill o hyfforddi pobl newydd. Felly, mae angen inni ddeall sut y mae’r Llywodraeth am ddefnyddio’r lefi yn y modd yna ac ymateb i ofidiau pobl fel Heddlu Gogledd Cymru.

Yr ail ddatganiad yr hoffwn ei glywed yw a yw’r Llywodraeth yn bwriadu ymateb o gwbl i argymhelliad y crwner mewn achos anffodus iawn yn sir Benfro o farwolaeth criw llong bysgota yr Harvester. Bu farw dau ddyn o Gaeriw yn y môr oherwydd anffawd, ond un o’r ffactorau a nodwyd yn y cwest oedd y ffaith nad oedd y ddau, fel pysgotwyr, yn gwisgo siacedi achub. Roedd y crwner wedi cydnabod bod yna ‘ddiwylliant’, meddai fe, o beidio â gwisgo siacedi achub o ran pysgotwyr. Mae e am gysylltu’n uniongyrchol ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn ei wneud yn orfodol i bysgotwyr o borthladdoedd ym Mhrydain wisgo siacedi achub. Gan fod pysgodfeydd, os nad y materion iechyd a diogelwch yma, wedi’u datganoli, a yw hi’n fwriad gan y Llywodraeth hefyd i wneud datganiad ar y mater yma a hefyd i gysylltu â’r crwner ac Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau er mwyn deall beth all gael ei wneud yn awr yng Nghymru i ddiogelu a chynyddu diogelwch ar y moroedd?