Part of the debate – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Galwaf am ddau ddatganiad, a’r cyntaf yn ymwneud â swyddogaeth awdurdodau lleol wrth gefnogi merched sydd ag anghenion lluosog. Mae hyn yn dilyn adroddiad am hynny, o'r enw ‘Leading Change’, a anfonwyd ataf gan Ganolfan Merched Gogledd Cymru yr wythnos diwethaf. Maen nhw’n dweud, er ei fod o safbwynt Lloegr, ei fod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol sy’n berthnasol i'n nodau a’n cydweithio a’n comisiynu yma yng Nghymru. Mae'n nodi—cyfeiriad bach iawn—fod rhwng hanner a dwy ran o dair o’r merched sydd yn y carchar yn dioddef o iselder, a bod bron eu hanner wedi ceisio cyflawni hunanladdiad, ac mae'n galw ar awdurdodau lleol i adolygu eu hasesiadau strategol ar y cyd o anghenion, eu strategaethau iechyd a lles ar y cyd a’u strategaethau atal hunanladdiad, er mwyn sicrhau y caiff anghenion merched eu diwallu yn unol â hynny. Mae hefyd yn galw am sicrhau bod merched sydd ag anghenion lluosog yn cymryd rhan yn bartneriaid cyfartal wrth ddatblygu ymatebion newydd a gwell, gan weithio gyda merched i gynllunio a darparu gwasanaethau sy'n diwallu eu hanghenion.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad llafar ar y mater pwysig iawn ynghylch cymorth yn y dyfodol i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol? Datganolodd Llywodraeth y DU y cyfrifoldeb am hyn i Lywodraeth Cymru o 30 Mehefin y llynedd ymlaen. Penododd yr Alban reolwr busnes amser llawn ar gyfer y gronfa byw’n annibynnol a sefydlodd gynorthwyydd prosiect o fewn Inclusion Scotland, chwaer-gorff i Anabledd Cymru, fisoedd o flaen llaw; a phenodwyd ILF Scotland gan Ogledd Iwerddon i weinyddu'r Gronfa Byw'n Annibynnol i Ogledd Iwerddon. Mae'r grŵp trawsbleidiol ar anabledd, yr oeddwn innau’n ei gyd-gadeirio yn y Cynulliad diwethaf ac y gofynnwyd i mi ei gadeirio yn y Cynulliad hwn, wedi derbyn tystiolaeth ynghylch gweithredu grant byw'n annibynnol Cymru o 1 Gorffennaf y llynedd, ac, yn sgil nodi pryderon eang, ysgrifennwyd at y Gweinidog ar y pryd, cafwyd ymateb, ac yna cyhoeddodd ddatganiad ysgrifenedig ar hyn ym mis Chwefror, gan ddweud ei fod wedi gofyn i'w swyddogion weithio gyda chynrychiolwyr rhanddeiliaid ar ddewisiadau, gan gynnwys trefniant posibl gyda'r corff a sefydlwyd yn yr Alban i ddarparu taliadau i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r gronfa byw’n annibynnol i wneud yr un peth i bobl Cymru. Ac ar y pryd, gallaf gadarnhau bod aelodau grŵp cyfeirio anabledd Cymru yn ffafrio’r dull gweithredu hwn. Er hyn, rydym bellach wedi cael, y mis hwn, ddatganiad ysgrifenedig yn unig gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol presennol, yn nodi ei bod wedi dod i'r casgliad y bydd cymorth i bobl a oedd yn arfer derbyn arian o’r Gronfa Byw’n Annibynnol, yn y dyfodol yn mynd trwy’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol arferol gan awdurdodau lleol, gan mai dyma’r dull mwyaf effeithiol, ac mae hi'n cydnabod y byddai rhai derbynwyr wedi dewis penderfyniad gwahanol. Nid yw’r methiant hwn, mae'n ymddangos, yn y datganiad hwn, i gyd-lunio, cyd-gynllunio, cyd-ddarparu a gweithio gyda dinasyddion a chymunedau yn bodloni gofynion y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol 2015, na’r cyfarwyddebau gan Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch cyfeiriad gwasanaethau yn y dyfodol. Mae hyn yn effeithio ar fywydau gormod o bobl anabl, felly mae'n haeddu datganiad llafar, neu ddadl lawn, hyd yn oed, a galwaf am hyn yn unol â hynny.