Part of the debate – Senedd Cymru am 3:41 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Enwyd Gogledd Cymru yn ddiweddar yn un o ranbarthau gorau’r byd gan Lonely Planet. Mae'n addas ac yn dystiolaeth i waith Croeso Cymru fod hyn yn dod ar ddiwedd y Flwyddyn Antur, gyda’r cyhoeddiad yn datgan bod Gogledd Cymru wedi ennill ei lle yn sgil y trawsnewid y mae’r rhanbarth wedi mynd drwyddo dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Atyniadau antur cyntaf y byd, llwybr arfordirol godidog, rhywfaint o’r beicio mynydd gorau yn y DU: mae’r ailddyfeisio, wrth gwrs, wedi'i yrru gan weledyddion ac entrepreneuriaid, ond rydym ni wedi chwarae ein rhan hefyd gydag arweinyddiaeth, cyllid ac ymgyrchoedd marchnata rhagorol Llywodraeth Cymru, ac uchafbwynt hyn oedd 2016 gwych.
Mae’r uchafbwyntiau yn ystod 12 mis llawn gweithgareddau yn cynnwys arddangosfa 'Trysorau' yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 'Penwythnos Mawr o Antur’ ym mis Ebrill, haf ‘Anturiaethau Hanesyddol' Cadw, dau ddigwyddiad Red Bull a strafagansa Roald Dahl 'Dinas yr Annisgwyl' yng Nghaerdydd. Ac, wrth gwrs, daeth antur cyffrous pêl-droed Cymru yn Ffrainc yn gynharach eleni yn gyfle i hyrwyddo Cymru i gynulleidfaoedd newydd ledled Ewrop, gydag arddangosfa ym Mharis a’n hymgyrch deledu gyntaf erioed ym marchnad yr Almaen yn ystod wythnos y rownd gynderfynol. Roedd yr un hysbyseb Croeso Cymru eisoes wedi cael ei dangos ar y teledu ac mewn sinemâu yma yn y DU ac yn Iwerddon, yn ogystal â sinemâu yn Lloegr a'r Almaen fel rhan o ymgyrch integredig, a oedd hefyd yn cynnwys marchnata print a digidol, yn ogystal â sioe deithiol antur, a ariannwyd ar y cyd â'r ymgyrch GREAT, a ymwelodd â Munich, Cologne, Paris ac Amsterdam.
Cafodd prosiect gosodiad haf 'EPIC' ei gynllunio i greu sylw yn y cyfryngau cymdeithasol i dymor yr haf yng Nghymru, gan dynnu dros 8,000 o ymwelwyr i safle Rhosili yn unig a rhoi hwb i ddilyniant cymdeithasol Croeso Cymru gyda dros 900,000 o bobl yn ei dilyn. Mae'r ymgyrch yn ehangach wedi helpu i greu lefelau ymateb defnyddwyr sy’n uwch nag erioed, gan ddenu dros 4.8 miliwn o ymwelwyr â gwefannau Croeso Cymru mewn 12 mis, a sbarduno mwy o fusnes i gwmnïau trefnu teithiau. Rwy'n arbennig o falch o'r effaith yr ymddengys bod y flwyddyn wedi ei chael yma yng Nghymru. Nid yn unig y mae'r diwydiant wedi cefnogi’r fenter yn llawn, gydag un grŵp o fusnesau hyd yn oed yn trefnu eu hysbysebion eu hunain yng ngorsaf Euston, ond mae ein llysgenhadon antur wedi ysbrydoli'r cyhoedd, a hoffwn ddiolch iddynt yn llwyr am eu hysbrydoliaeth a’u chwys drwyddi draw. Mae’r Flwyddyn Antur wedi bod yn destun rhaglenni teledu oriau brig a sylw helaeth yn y cyfryngau yng Nghymru, ac mae'n ymddangos i mi nad yw’n gyd-ddigwyddiad bod nifer yr ymwelwyr dydd yn arbennig o gryf eleni. Yn wir, mae'r cynnydd o dros 40 y cant yng ngwariant cyfartalog ymwelwyr dydd yn un o amrywiaeth o ddangosyddion cadarnhaol sy'n awgrymu y gallai fod yn flwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer twristiaeth. Gwelwyd twf o 15 y cant mewn ymweliadau gan dwristiaid rhyngwladol yn ystod chwe mis cyntaf 2016 a chynhaliwyd neu llwyddwyd i gynyddu lefelau deiliadaeth ar draws y rhan fwyaf o sectorau. Does dim rhyfedd bod rhyw 85 y cant o fusnesau wedi dweud wrthym eu bod yn hyderus am y flwyddyn hon. Mae’r holl weithgarwch yn parhau i ddarparu twf economaidd a chyfleoedd cyflogaeth sylweddol mewn cymunedau ledled Cymru.
Ac nid yw’r antur yn gorffen yn y fan yma; mae’r etifeddiaeth yn parhau gydag agoriadau antur newydd o safon fyd-eang yn gynnar y flwyddyn nesaf, buddsoddiad pellach mewn cynllunio cynhyrchion antur o’r math cyntaf yn y byd a marchnata antur parhaus, hyd yn oed wrth i ni ychwanegu haen newydd i'n naratif: chwedlau. Ein gweledigaeth wrth inni edrych ymlaen at “Flwyddyn Chwedlau” 2017 yw adeiladu ar lwyddiant y Flwyddyn Antur gyda dimensiwn newydd a’r un mor gystadleuol i'n stori. Oherwydd mae 2017 yn ymwneud â sicrhau bod ein diwylliant a'n treftadaeth wrth wraidd ein brand cenedlaethol. Yn sicr, nid yw’n ymwneud ag edrych yn ôl: mae’r Flwyddyn Chwedlau yn ymwneud â dod â'r gorffennol yn fyw fel na welwyd erioed o'r blaen, gydag arloesi blaenllaw. Mae'n ymwneud â chreu a dathlu chwedlau Cymreig newydd, personoliaethau, cynnyrch a digwyddiadau'r presennol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru, neu’n cael eu cyfoethogi drwy ddod yma.
Bydd ein hasedau diwylliannol yn cael eu chwistrellu â’r un faint o greadigrwydd ag y gwelsom yn tanio’r sector antur, gyda gweithgareddau sydd yn ddigamsyniol yn perthyn i Gymru, ac yn rhagorol yn rhyngwladol. Mae'r uchelgais hwn yn hanfodol oherwydd nid oedd 2016 yn ymwneud ag antur yn unig, roedd hefyd yn flwyddyn refferendwm yr UE, gan newid y cyd-destun ar gyfer y Flwyddyn Chwedlau yn llwyr. Roedd hyn yn ei gwneud yn bwysicach byth i ryngwladoli ansawdd y cynhyrchion a gynigir gennym gydag arloesedd o safon fyd-eang ac i werthu Cymru i'r byd gydag egni o'r newydd. Yn wir, yr wythnos hon, rwyf hefyd wedi lansio dull newydd o hyrwyddo Cymru ar gyfer busnes—sy’n rhyngwladol o ran cwmpas, ond yn dweud straeon lleol. Mae'r weledigaeth yn frand cydgysylltiedig, integredig gydag apêl fyd-eang wedi’i gwreiddio mewn synnwyr nodedig o le, a Blwyddyn y Chwedlau yw cyfraniad twristiaeth i'r dull beiddgar hwn.
Mae'r gyllideb ychwanegol o £5 miliwn a sicrhawyd ar gyfer Croeso Cymru yn golygu, o safbwynt twristiaeth, y byddwn yn ymateb i'r her hon gyda chyllid ar gyfer profiadau a digwyddiadau o ansawdd rhyngwladol ac sy’n diffinio brand. Bydd manylion am gronfeydd partneriaeth y flwyddyn nesaf yn cael eu rhyddhau yn fuan. Mae hefyd yn ein galluogi ni i roi hwb sylweddol i'n hymdrechion marchnata domestig a rhyngwladol gydag ymgyrchoedd wedi’u cryfhau yn y DU, yr Almaen, dinasoedd allweddol yn Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae prosiect i ategu'r gwaith hwn drwy drawsnewid llwyfannau porth digidol Cymru a’i galluoedd cynnwys eisoes ar y gweill.
'Chwedlau' yw'r thema berffaith ar gyfer y gwaith hwn. Rydym yn gwybod bod diwylliant a threftadaeth yn atyniadau cryf ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol, ond mae’r thema hefyd yn cynnig y dilysrwydd dwfn y mae marchnadoedd domestig heddiw yn chwilio amdano. Y lleol yn cwrdd â’r byd-eang; yr hen yn cael ei drwytho gyda’r newydd. Mae ein rhaglen yn anelu at ddod â’r agweddau hyn at ei gilydd mewn ffyrdd cyffrous. Bydd gennym galendr o weithgareddau creadigol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen mewn digwyddiadau yng nghestyll Cymru—mwy o ddigwyddiadau awyr agored, twrnamaint canoloesol gwefreiddiol yng Nghonwy, a dadorchuddio dau waith celf newydd pwysig o fri rhyngwladol. Byddwn yn dathlu gwlad o adrodd straeon, gan weithio gyda VisitBritain i ddathlu rhyddhau ffilm newydd am y Brenin Arthur, ac yn cydnabod doniau byd-eang a ysbrydolwyd gan Gymru, o Dahl i Dylan Thomas i Tolkien, gyda theithiau a llwybrau.
Bydd rhaglen gyfoethog ac ysbrydoledig o ddigwyddiadau, arddangosfeydd a chasgliadau yn cael eu darparu gan ein partneriaid diwylliannol mawr, gan gynnwys Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a bydd yn cynnwys gweithiau a themâu chwedlonol. Ym mis Mehefin, rydym yn croesawu rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA i Gaerdydd, yr achlysur chwaraeon mwyaf yn y byd y flwyddyn nesaf. Gallwch ddisgwyl ymgyrchoedd digidol amlieithog, gosodiadau yn ymwneud â phrofiad a sylw yn y cyfryngau byd-eang, wrth inni baratoi’r llwyfan ar gyfer digwyddiad chwaraeon chwedlonol arall. Bydd tlws pencampwyr criced a chystadleuaeth agored uwch golff yn ychwanegu at y pecyn o ddigwyddiadau chwaraeon.
Bydd yr haf hefyd yn ein gweld ni yn creu ac yn dathlu gwyliau a digwyddiadau chwedlonol, ac yn lansio prosiect llety glampio, sydd eisoes yn denu sylw amlwg yn y cyfryngau. Byddwn yn tynnu sylw at ein harwyr bwyd a diod ym mis Medi, cyn dadorchuddio llwybrau teithiol brand newydd chwedlonol ar draws ein gwlad, wedi'u hanelu at farchnadoedd rhyngwladol, yn yr hydref.
Mae'r ymgyrch fawr, aml-sianel, aml-farchnad eisoes wedi dechrau ym Marchnad Deithio'r Byd yr wythnos diwethaf, lle'r oedd yn amlwg bod gan gynnig diwylliannol gwahanol ac amrywiol Cymru botensial gwirioneddol, wedi'i gyfuno ag antur, i fynd â’n brand a’n perfformiad i lefel newydd, gyda'r nod, wrth gwrs, o gael Cymru gyfan ar restrau byr fel un Lonely Planet yn y dyfodol, yn ogystal â thyfu ein heconomi. Ond hefyd, ac yn bwysicaf oll, mae gweledigaeth hirdymor i ymfalchïo ynddi ac i gryfhau a gwella ffabrig go iawn y diwylliant a'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu i’w hyrwyddo yn y lle cyntaf, gan ddarparu sail gadarn i roi amlygrwydd i chwedlau’r dyfodol.