Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 15 Tachwedd 2016.
Mae'r adroddiad yn gyfraniad pwysig at y ddeialog barhaus rhwng y comisiynydd, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, pawb sy'n gweithio gyda phlant, rhieni ac, wrth gwrs, plant eu hunain. Lywydd, byddwn yn cyhoeddi ymateb ystyrlon Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar ddiwedd y mis, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn croesawu ac yn derbyn rhai o'r argymhellion, fel y rhai ar hybu iechyd meddwl cadarnhaol i blant a chryfhau darpariaeth eiriolaeth statudol. Bydd angen mwy o feddwl ar rai o’r argymhellion eraill, yn ogystal â thrafodaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn nodi’r ffordd orau ymlaen er budd plant.
Heddiw, rydym yn gofyn i'r Cynulliad nodi'r adroddiad er mwyn cychwyn ar y broses o ymgysylltu’n ehangach ar yr argymhellion, a byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1 Plaid Cymru, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu argymhellion penodol, ond oherwydd y byddai'n anghywir i achub y blaen ar y ddadl ehangach sy'n ofynnol. Mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid a chyfle i’r comisiynydd a'r Llywodraeth ac, ym mis Mai, gwnaethom adrodd ar weithrediad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roeddynt yn canmol Cymru yn benodol am gyflwyno trosedd cam-drin domestig newydd, cymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, cyflwyno amddiffyniad statudol ar gyfer pob plentyn posibl a allai fod yn dioddef yn sgil masnachu plant, a deddfu ar gyfer chwarae.
Er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddiwygio addysg, trwy ddatblygu darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar, sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael, mynd i'r afael â throseddau casineb a gwahaniaethu, a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein rhaglen i ysgogi gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, gan gyflawni Cymru sy'n ffyniannus, diogel, iach a gweithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam yn eu bywydau, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Lywydd, gan droi at rai materion penodol, mae adroddiad y comisiynydd a phwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi tynnu sylw at y mater salwch meddwl, gan bwysleisio'r angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed, yr angen am fwy o gefnogaeth mewn ysgolion a gwell cydweithio gwasanaeth. Mae’r broblem barhaus hon i blant a phobl ifanc yn ystyriaeth ddifrifol iawn i ni. Mae ein cynllun cyflawni 10 mlynedd ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yn cynnwys cynllun i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc i fod yn fwy cydnerth a gallu ymdopi yn well â diffyg lles meddwl, pan fo angen. Mae'r broses ddiwygio cwricwlwm yn elfen allweddol o sut y byddwn yn cyflawni hyn. Mae'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a’n buddsoddiad CAMHS o bron i £8 miliwn yn ategu ei gilydd ac yn symud ymlaen ochr yn ochr â’i gilydd. Mae cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith y rhaglen yn hanfodol.
Caiff anghenion dysgu ychwanegol eu hamlygu hefyd yn yr adroddiad. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac yn faes sy’n destun ymgysylltiad pwysig parhaus rhyngom ni a swyddfa'r comisiynydd. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y comisiynydd i'n hymgynghoriad ar y Bil drafft a chyfranogiad ei swyddfa i’r gwaith o ddatblygu diwygiadau yn fwy cyffredinol, yn enwedig drwy'r grŵp datblygu cynnwys cod. Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn disgwyl cyflwyno'r Bil yn y Cynulliad cyn toriad y Nadolig. Un rhan yn unig o raglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol llawer ehangach yw’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Nid y newid yn y gyfraith yw pen y daith: hwn fydd dechrau proses drawsnewidiol o ddysgu.
Cododd y comisiynydd bryderon hefyd ynghylch plant sydd yn syrthio drwy rwyd y gwasanaethau iechyd ac addysg cyffredinol. Rydym wedi edrych eto ar ein canllawiau ar addysg ddewisol yn y cartref ac wedi eu cryfhau, a chaiff y rhain eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd angen i ni ystyried ac ymgynghori yn ofalus pa un a ddylid symud y tu hwnt i hynny, ond rwyf am fod yn glir bod ein dull gofalus yn ymwneud â sicrhau’r mesurau diogelu ymarferol gorau ar gyfer pob plentyn. Rwy’n cydnabod bod ymyrraeth gynnar yn allweddol i iechyd a lles yn y tymor hir ac rwyf wedi amlinellu fy mlaenoriaethau o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod ac adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwy’n credu bod y rhain yn cyfochri â llawer o'r materion sy'n peri pryder i'r comisiynydd.
Rwyf am sicrhau bod ein polisïau’n mynd i'r afael â’r problemau sylfaenol sy'n gallu arwain at brofiadau niweidiol mewn plentyndod a chael effeithiau hirdymor ar fywyd. Dros y misoedd sydd i ddod byddwn yn edrych o'r newydd ar sut y gall y Llywodraeth hon gefnogi cymunedau cydnerth, sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant. Rwy'n hyderus, Lywydd, fod y Llywodraeth hon yn gweithio i wireddu hawliau plant ym mhob rhan o Gymru ac fe hoffwn ddiolch i'r comisiynydd a'i swyddfa am yr adroddiad blynyddol hwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion ac yn annog y drafodaeth gyhoeddus ehangaf bosibl fel y gallwn sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Edrychaf ymlaen heddiw at wrando ar y ddadl hon.