– Senedd Cymru ar 15 Tachwedd 2016.
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda, sef dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru. Galwaf ar Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, i gynnig y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu'r cyfle i agor y ddadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2015-16. Mae'r adroddiad hwn yn tanlinellu pwysigrwydd swyddogaeth y comisiynydd wrth hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae'n adlewyrchu ei blwyddyn lawn gyntaf yn y swydd ac mae'n nodi llawer o gyflawniadau. Mae hefyd yn dangos ei annibyniaeth glir o Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad. Yn sylfaen i’r annibyniaeth honno y mae’r ffaith bod cyfrifoldeb y Llywodraeth ar gyfer y comisiynydd wedi ei wahanu o allu'r Cynulliad i’w dwyn hi i gyfrif. Byddwn, felly, yn gwrthwynebu gwelliant 2 Plaid Cymru, a fyddai'n cyfuno’r cyfrifoldeb a’r atebolrwydd yn nwylo'r Cynulliad.
Mae'r adroddiad yn gyfraniad pwysig at y ddeialog barhaus rhwng y comisiynydd, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad, pawb sy'n gweithio gyda phlant, rhieni ac, wrth gwrs, plant eu hunain. Lywydd, byddwn yn cyhoeddi ymateb ystyrlon Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar ddiwedd y mis, ac rwy’n disgwyl y byddwn yn croesawu ac yn derbyn rhai o'r argymhellion, fel y rhai ar hybu iechyd meddwl cadarnhaol i blant a chryfhau darpariaeth eiriolaeth statudol. Bydd angen mwy o feddwl ar rai o’r argymhellion eraill, yn ogystal â thrafodaeth ag amrywiaeth eang o randdeiliaid er mwyn nodi’r ffordd orau ymlaen er budd plant.
Heddiw, rydym yn gofyn i'r Cynulliad nodi'r adroddiad er mwyn cychwyn ar y broses o ymgysylltu’n ehangach ar yr argymhellion, a byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 1 Plaid Cymru, nid oherwydd ein bod yn gwrthwynebu argymhellion penodol, ond oherwydd y byddai'n anghywir i achub y blaen ar y ddadl ehangach sy'n ofynnol. Mae hon wedi bod yn flwyddyn o newid a chyfle i’r comisiynydd a'r Llywodraeth ac, ym mis Mai, gwnaethom adrodd ar weithrediad Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Roeddynt yn canmol Cymru yn benodol am gyflwyno trosedd cam-drin domestig newydd, cymryd camau i fynd i'r afael â cham-drin a chamfanteisio’n rhywiol ar blant, cyflwyno amddiffyniad statudol ar gyfer pob plentyn posibl a allai fod yn dioddef yn sgil masnachu plant, a deddfu ar gyfer chwarae.
Er gwaethaf yr amgylchiadau economaidd heriol, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddiwygio addysg, trwy ddatblygu darpariaeth gofal plant a blynyddoedd cynnar, sicrhau bod cyfleoedd chwarae ar gael, mynd i'r afael â throseddau casineb a gwahaniaethu, a gwella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn nodi ein rhaglen i ysgogi gwelliant yn economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, gan gyflawni Cymru sy'n ffyniannus, diogel, iach a gweithgar, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, yn unedig a chysylltiedig. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam yn eu bywydau, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Lywydd, gan droi at rai materion penodol, mae adroddiad y comisiynydd a phwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi tynnu sylw at y mater salwch meddwl, gan bwysleisio'r angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl i blant a'r glasoed, yr angen am fwy o gefnogaeth mewn ysgolion a gwell cydweithio gwasanaeth. Mae’r broblem barhaus hon i blant a phobl ifanc yn ystyriaeth ddifrifol iawn i ni. Mae ein cynllun cyflawni 10 mlynedd ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ yn cynnwys cynllun i gefnogi pob plentyn a pherson ifanc i fod yn fwy cydnerth a gallu ymdopi yn well â diffyg lles meddwl, pan fo angen. Mae'r broses ddiwygio cwricwlwm yn elfen allweddol o sut y byddwn yn cyflawni hyn. Mae'r rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc a’n buddsoddiad CAMHS o bron i £8 miliwn yn ategu ei gilydd ac yn symud ymlaen ochr yn ochr â’i gilydd. Mae cynnwys pobl ifanc ym mhob agwedd ar waith y rhaglen yn hanfodol.
Caiff anghenion dysgu ychwanegol eu hamlygu hefyd yn yr adroddiad. Mae'n flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac yn faes sy’n destun ymgysylltiad pwysig parhaus rhyngom ni a swyddfa'r comisiynydd. Rydym yn ddiolchgar am ymateb y comisiynydd i'n hymgynghoriad ar y Bil drafft a chyfranogiad ei swyddfa i’r gwaith o ddatblygu diwygiadau yn fwy cyffredinol, yn enwedig drwy'r grŵp datblygu cynnwys cod. Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn disgwyl cyflwyno'r Bil yn y Cynulliad cyn toriad y Nadolig. Un rhan yn unig o raglen drawsnewid anghenion dysgu ychwanegol llawer ehangach yw’r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. Nid y newid yn y gyfraith yw pen y daith: hwn fydd dechrau proses drawsnewidiol o ddysgu.
Cododd y comisiynydd bryderon hefyd ynghylch plant sydd yn syrthio drwy rwyd y gwasanaethau iechyd ac addysg cyffredinol. Rydym wedi edrych eto ar ein canllawiau ar addysg ddewisol yn y cartref ac wedi eu cryfhau, a chaiff y rhain eu cyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd angen i ni ystyried ac ymgynghori yn ofalus pa un a ddylid symud y tu hwnt i hynny, ond rwyf am fod yn glir bod ein dull gofalus yn ymwneud â sicrhau’r mesurau diogelu ymarferol gorau ar gyfer pob plentyn. Rwy’n cydnabod bod ymyrraeth gynnar yn allweddol i iechyd a lles yn y tymor hir ac rwyf wedi amlinellu fy mlaenoriaethau o ran mynd i'r afael â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod ac adeiladu cymunedau cydnerth, ac rwy’n credu bod y rhain yn cyfochri â llawer o'r materion sy'n peri pryder i'r comisiynydd.
Rwyf am sicrhau bod ein polisïau’n mynd i'r afael â’r problemau sylfaenol sy'n gallu arwain at brofiadau niweidiol mewn plentyndod a chael effeithiau hirdymor ar fywyd. Dros y misoedd sydd i ddod byddwn yn edrych o'r newydd ar sut y gall y Llywodraeth hon gefnogi cymunedau cydnerth, sy'n gallu cynnig y dechrau gorau mewn bywyd i blant. Rwy'n hyderus, Lywydd, fod y Llywodraeth hon yn gweithio i wireddu hawliau plant ym mhob rhan o Gymru ac fe hoffwn ddiolch i'r comisiynydd a'i swyddfa am yr adroddiad blynyddol hwn. Byddwn yn rhoi ystyriaeth fanwl i'r argymhellion ac yn annog y drafodaeth gyhoeddus ehangaf bosibl fel y gallwn sicrhau'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Edrychaf ymlaen heddiw at wrando ar y ddadl hon.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig ac rwy’n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i benderfynu gweithredu argymhellion yr adroddiad, ac yn benodol y rhai sy'n berthnasol i:
a) gwella profiadau plant o ofal iechyd meddwl;
b) cyflwyno trefn weithredu genedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol fel mater o flaenoriaeth; ac
c) cryfhau'r gofynion cofrestru ar gyfer addysg ddewisol yn y cartref.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy’n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Plaid Cymru. Rwyf am ddechrau drwy longyfarch y comisiynydd plant, nid yn unig am yr adroddiad blynyddol, ond am ei gwaith yn ystod y flwyddyn sydd wedi mynd heibio. Rwy’n gwybod, wrth gwrs, fod y gwaith hwnnw wedi’i osod ar seiliau cadarn yn dilyn yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa?’ a gynhaliwyd—yr ymgynghoriad mwyaf erioed gyda phlant a phobl ifanc gan swyddfa’r comisiynydd, gyda dros 7,000 o ymatebion, a hynny, felly, wrth gwrs, yn sylfaen gref iawn ar gyfer adnabod y blaenoriaethau, cynllunio rhaglen waith ac, wrth gwrs, gyrru rhai o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad.
Mae’r gwelliant cyntaf wedi’i osod yn syml iawn nid am nad wyf yn hapus i nodi adroddiad blynyddol y comisiynydd—wrth gwrs fy mod i’n hapus—ond rwyf jest ddim yn teimlo bod nodi yn ddigon. Nid yw fel pe bai’n gwneud cyfiawnder â’r argymhellion sydd yn yr adroddiad. Rwy’n teimlo y byddai’n fuddiol i ni anfon neges gryfach i adlewyrchu pa mor benderfynol yr ŷm ni mewn gwirionedd i fynd i’r afael â’r materion sydd wedi cael eu hamlygu yn yr adroddiad yma.
Felly, yn ogystal â’i nodi, fel y mae’r gwelliant cyntaf yn ei awgrymu, rwy’n cynnig y dylem ni benderfynu gweithredu ar yr argymhellion hynny—ei fod yn ddatganiad clir o gefnogaeth, yn bleidlais glir o hyder yn ein comisiynydd plant a’i fod yn ddatganiad ein bod ni yn sefyll ysgwydd yn ysgwydd gyda hi a chyda phlant a phobl ifanc Cymru, drwy beidio â bodloni jest i gydnabod bod yna broblemau ond i fod yn fwy bwriadol a rhoi mwy o bwys ar ymrwymo i fynd i’r afael â’r problemau hynny. Ond rwyf yn clywed beth mae’r Ysgrifennydd yn ei ddweud, wrth gwrs: mi fydd y Llywodraeth yn ymateb. Rwyf jest yn teimlo y byddai’r neges sy’n mynd o fan hyn y prynhawn yma lawer yn gryfach petaem yn derbyn y gwelliant.
Wrth gwrs, rŷm ni yn croesawu’r targedau uchelgeisiol newydd ar gyfer gofal iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc. Ond fel mae’r comisiynydd yn ei ddweud, mae’n ddarlun anghyson iawn ar draws Cymru. Mae yna rai ardaloedd wedi llwyddo i leihau amserau yn sylweddol iawn, gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr yn un ohonyn nhw, wrth gwrs, ac wedi mynd lawr o 550 yn aros i 82 o bobl ifanc eleni—y gostyngiad mwyaf dramatig, efallai, yr ŷm ni wedi ei weld yng Nghymru. Ond wedyn rŷm ni’n edrych ar y ffigurau yn rhywle fel Abertawe Bro Morgannwg, ac rŷm ni’n gweld cynnydd yn y nifer sy’n aros, i fyny i 630 o blant yn aros i gael eu gweld gan y gwasanaethau CAMHS—dros 200 ohonyn nhw, wrth gwrs, yn aros dros 14 wythnos. Mae’r ffigurau yna yn wahanol iawn i wasanaethau meddwl oedolion, lle mae’r niferoedd sy’n aros yn llawer, llawer is ymhob bwrdd iechyd. Felly, mae’r cynnydd wedi bod yn araf mewn rhai ardaloedd ac yn anghyson beth bynnag ar draws Cymru, ac rwyf yn teimlo bod angen datganiad cryfach o fwriad i weithredu i fynd i’r afael â hynny.
Mae pwysigrwydd wedyn, wrth gwrs, eiriolaeth a galluogi plant sy’n derbyn gofal i gael mynediad i eiriolwyr annibynnol yn fater allweddol, yn enwedig ers i ymchwiliad Waterhouse ganfod nad oedd neb wedi credu y rhai a oedd wedi cael eu cam-drin yn rhywiol ac yn gorfforol dros ddegawdau mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru, ac nad oedd neb wedi gwrando arnyn nhw, i bob pwrpas. Mi siaradodd y comisiynydd plant blaenorol am ei rwystredigaeth ynghylch yr ymateb araf cychwynnol i argymhellion yr oedd e wedi eu gwneud am eiriolaeth annibynnol yn ei adroddiad ‘Lleisiau Coll’ a’r adroddiad a ddaeth yn sgil hynny, ‘Lleisiau Coll: Cynnydd Coll’. Mae’r angen i weithredu yr ‘approach’ cenedlaethol ar gyfer eiriolaeth statudol i blant a phobl ifanc yn destun ymchwiliad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg fan hyn yn y Cynulliad ar hyn o bryd. Ac rydym yn dal i aros am gadarnhad ynghylch a fydd awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn gweithredu model cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth statudol i gyd-fynd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yn olaf, ac mae hyn yn rhywbeth rwy wedi ei godi gyda’r Prif Weinidog cyn heddiw, nid oes gofyniad cyfreithiol i rieni i gofrestru gyda’r awdurdod lleol os ydyn nhw’n addysgu eu plentyn yn y cartref, nac unrhyw ofyniad ar awdurdodau lleol i fonitro neu archwilio’r ddarpariaeth dysgu yn y cartref chwaith. Nid yw hynny yn dderbyniol, yn fy marn i. Yn ei hadroddiad, mae’r comisiynydd yn codi’r mater yng nghyd-destun marwolaeth Dylan Seabridge. Mi gafodd e ei addysgu yn y cartref, a chafodd e ddim cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y saith mlynedd cyn iddo fe farw. Rwy’n deall y consyrn ymhlith nifer o bobl fod yna berygl i ni bardduo pawb drwy geisio mynd i’r afael â delio â’r risg yna, ond tra bod yna elfen o risg i un plentyn yng Nghymru, nid wyf yn meddwl ei fod yn or-ymateb i ni fynd ymhellach na’r hyn rydym wedi ei weld yn digwydd hyd yn hyn. Ac nid yw hi’n dderbyniol, yn fy marn i, fod y sefyllfa bresennol yn parhau. Mae angen mynd i’r afael â hyn ar fyrder.
Mae’r ail welliant, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr angen i drosglwyddo cyfrifoldeb am y comisiynydd plant o’r Llywodraeth i’r Cynulliad. Mae hwn yn fater sydd wedi cael ei wyntyllu yn y cyd-destun yma a chyd-destun comisiynwyr eraill yn y gorffennol. Rwy’n teimlo bod y dadleuon fel y’u cyflwynwyd nhw bryd hynny yr un mor ddilys heddiw, ac rwy’n meddwl y byddai’n ddymunol iawn i’r Cynulliad gefnogi y gwelliant hwnnw. Dyna hefyd, wrth gwrs, yw barn y comisiynydd ei hun, ac mae’n rhaid i ni beidio ag anghofio hynny yn y drafodaeth yma.
Diolch i chi, Weinidog, am gyflwyno'r ddadl hon heddiw yn amser y Llywodraeth. Rwy'n credu ei bod bob amser yn ddefnyddiol iawn i ni fel Cynulliad Cenedlaethol fyfyrio ar adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, a'r gwaith rhagorol y mae hi a'i thîm yn ei wneud ledled Cymru gyfan. Rwyf am gofnodi fy niolch iddi am ymweld â’r gogledd yn rheolaidd, gan gynnwys lleoedd yn fy etholaeth i, i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yno.
Credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ystyried yr amryfal argymhellion yn adroddiad y comisiynydd, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi tynnu sylw at nifer ohonynt yn y gwelliannau y maent wedi'u cyflwyno. Rwy’n cefnogi’n llwyr eu galwadau am fwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar ymdrin â rhai o'r amseroedd aros ofnadwy ar gyfer mynediad at ofal iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Rydym ni hanner ffordd drwy raglen sydd i fod i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hir hyn, ac eto mae’r amseroedd aros hynny yn union yr un fath ar hyn o bryd ag yr oeddynt ar ddechrau'r rhaglen. Mae rhai newidiadau wedi bod mewn rhai rhannau o'r wlad, ond, yn anffodus, maen nhw'n parhau’n rhy hir. A dweud y gwir, nid yw'n ddigon da ein bod ni'n trin ein plant a’n pobl ifanc fel dinasyddion eilradd pan ddaw i gael mynediad at rai o'r gwasanaethau pwysig iawn hyn. Mae’n fantais i mi, yn fy etholaeth i, bod gennym uned CAMHS flaenllaw yn Abergele, wrth ymyl yr ysbyty yno, ac mae'n drasiedi mawr i mi nad yw’r uned honno’n llawn—nid yw pob un o'r gwelyau yn cael eu defnyddio—ac eto mae pobl ifanc o’r gogledd yn cael eu hanfon allan o'r wlad er mwyn defnyddio gwasanaethau filltiroedd lawer i ffwrdd o’u rhwydwaith cymorth. Felly, mae angen mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â rhai o'r pethau hynny, ac rwy'n falch bod Plaid Cymru wedi cyflwyno’r gwelliant hwnnw.
Rwy’n nodi hefyd, wrth gwrs, y sgwrs sydd wedi bod yn digwydd ynghylch marwolaeth Dylan Seabridge, ac rwy’n nodi ymateb y Llywodraeth i hynny yn gynharach eleni ac, yn wir, y sylwadau a nodwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet heddiw am ei ddull o fwrw ymlaen â pheth o'r hyn a ddysgwyd o'r achos trasig iawn, iawn hwnnw. Credaf fod dull y Llywodraeth yn briodol yma o ran symud ymlaen yn ofalus heb neidio i gasgliad bod angen cofrestru gorfodol ar gyfer plant sy’n cael eu haddysgu gartref. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet, heb os, yn gyfarwydd â'r ffaith bod plant sy’n cael eu haddysgu gartref ddwywaith yn fwy tebygol o gael eu hymchwilio gan y gwasanaethau cymdeithasol na phlant ysgol neu blant o dan bump oed, ac eto hanner mor debygol o gael eu gosod ar gynllun amddiffyn plant. Felly, mae'n arwydd clir ei bod yn ymddangos bod llai o risg yn gysylltiedig â phlant sy’n cael eu haddysgu gartref, ac nid mwy o risg, sef yr hyn y mae’n ymddangos y mae Plaid Cymru yn ei honni. Felly, gadewch i ni beidio ag ymateb yn ddifeddwl. Credaf mai dull gofalus y Llywodraeth yw'r un cywir, ac ar y mater penodol hwnnw, nid yw'n rhywbeth yr wyf yn cytuno ag ef o ran un o'r argymhellion a nodwyd, mewn gwirionedd, gan y comisiynydd plant.
Rydym yn gwybod hefyd, wrth gwrs, yn enwedig yn achos Dylan Seabridge, bod y teulu hwn yn hysbys i'r awdurdodau statudol; roeddynt yn hysbys i'r gweithwyr proffesiynol mewn gwahanol sefydliadau, a gwnaeth chwythwr chwiban gysylltu â'r awdurdod lleol i fynegi pryderon am y teulu, ac ni wnaeth y pethau hyn sbarduno, yn fy marn i, yr ymatebion priodol gan yr awdurdodau. Felly, nid ydym yn gwybod beth fyddai'r canlyniad pe byddai pethau wedi eu trin yn wahanol, ond rwy’n amau’n fawr iawn y byddai rhywbeth mor syml â chael cofrestr orfodol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.
Rwyf i hefyd yn rhannu dyhead Plaid Cymru, fodd bynnag, ynghylch yr angen i sicrhau bod y comisiynydd plant yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn. Mae gennym nifer o swyddi comisiynwyr yma yng Nghymru, erbyn hyn, yn ogystal â chorfforaethau undyn eraill, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac mae’r holl ddulliau o’u penodi yn anghyson. Ni all hynny fod yn iawn. Mae angen i ni gael mwy o gysondeb ynglŷn â’r mathau hyn o swyddi, ac felly, byddwn yn falch pe byddai’r Llywodraeth yn defnyddio dull gwahanol o benodi’r comisiynydd plant. Gwn o sgyrsiau blaenorol gyda’r Llywodraeth bod yna awydd i gael mwy o gysondeb, ond am ryw reswm, mae'n ymddangos nad oes neb yn symud ymlaen, mewn gwirionedd, i wneud unrhyw newidiadau. Felly, byddwn ni’n cefnogi gwelliant 2 a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar y mater hwnnw.
Ond mae'n bwysig ein bod ni’n cael y sgwrs hon. Rwy'n ddiolchgar i'r comisiynydd plant am y gwaith y mae'n ei wneud. Mae llawer o argymhellion yn y ddogfen hon. Rwyf wedi tynnu sylw at yr ychydig ohonynt y mae gennym yr amser i’w trafod y prynhawn yma, ond rwy’n gobeithio'n fawr y bydd ei phwerau hi hefyd, yn rhan o unrhyw adolygiad, yn cael eu hymestyn, fel bod ganddi ddannedd mwy i frathu pobl â nhw os yw’n angenrheidiol.
Roeddwn i eisiau codi dau beth sydd yn yr adroddiad ac un nad yw ynddo. Yn gyntaf, hoffwn i hefyd glywed gan y Gweinidog am y plant sydd mewn perygl pan fyddant yn cael eu haddysgu gartref, dim ond oherwydd nad ydynt yn cael eu gweld yn gyson gan wasanaethau eraill. Fel y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn nodi, mae angen iddynt gael eu gweld gan weithiwr proffesiynol o leiaf unwaith y flwyddyn, er mwyn iddynt allu mynegi eu barn am eu profiadau addysgol, ar wahân i unrhyw beth arall. Felly, byddwn yn pwyso ar y Gweinidog am ymateb ar y pwynt penodol hwnnw.
Un o'r pethau mwyaf pwysig a godir yn yr adroddiad blynyddol yw hawliau plant i allu cerdded neu feicio i'r ysgol yn ddiogel. Rwy'n falch o weld ei bod hi wedi llunio’r adroddiad hwn am deithiau ysgol gyda Sustrans. Mae’r neges gan y plant yn gwbl glir: maent yn mwynhau cerdded, neu fynd ar sgwter neu feic i'r ysgol, ac mae bron eu hanner yn gwneud hynny, ond mae nifer craidd o blant sy'n dal i deithio i'r ysgol mewn car—43 y cant—ac mae hynny’n eithaf niweidiol i'w hiechyd, yn ogystal ag i’r amgylchedd. Felly, hoffwn weld llawer mwy o bwyslais gan y Llywodraeth ar sicrhau ein bod mewn gwirionedd yn gweithredu’r Ddeddf teithio llesol, gan ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ofyn i bawb yn yr ardal ynglŷn â gwella llwybrau ar gyfer teithio ar feic neu ar droed. Felly, hoffwn weld awdurdodau lleol yn gofyn i bob ysgol i fod yn rhan o’r gwaith o lunio cynllun teithio llesol gyfer yr ysgol honno, fel bod plant yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, rhieni yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw, a gallwn fod yn weithgar yn hyrwyddo hyn fel y ffordd orau o deithio i'r ysgol, fel eu bod yn barod i ddysgu. Rwy’n credu bod awdurdodau lleol yn gwneud symiau mawr o arian o ffioedd parcio, yn sicr yn fy awdurdod lleol i, ac rwyf am weld mwy ohono yn cael ei wario ar deithio llesol.
Y peth nad yw yn yr adroddiad, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw yn yr adroddiad, yw adlewyrchiad o'r lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru. Ni yw’r wlad fwyaf ordew neu dros bwysau yn y DU, a hefyd yn Ewrop. Felly, mae gwir angen i ni boeni am hyn, ac rwy'n synnu'n fawr nad yw wedi’i adlewyrchu yn argymhellion y comisiynydd plant. Mae gennym 26 y cant o blant pedair a phum mlwydd oed sy'n cyrraedd yr ysgol dros bwysau neu'n ordew, o’i gymharu â 21 y cant yn Lloegr. Mae hynny yn wael hefyd, ond y pwynt yw ein bod yn gwneud hyd yn oed yn waeth na gwledydd eraill y DU, ac mae gwir angen inni roi llawer mwy o bwyslais ar hyn.
Mae gan blant hawl i gael eu bwydo bwyd arferol, ac rwy’n ei chael yn hollol anobeithiol o weld pobl yn bwydo diodydd llawn siwgr mewn poteli i fabanod. Mae angen i ni wybod ein bod wir yn mynd i'r afael â'r mater hwn. Rwy’n gwybod bod angen i’r gwiriadau iechyd estynedig sylwi ar hyn, ond mewn gwirionedd mae angen sylwi ar hyn yn ystod y camau cynnar iawn, h.y. ar ddechrau beichiogrwydd ac yn ystod 12 mis cyntaf bywyd y plentyn. Rwy’n meddwl bod angen i ni hefyd fabwysiadu yr esiampl o Ysgol Gynradd St Ninians yn Stirling, lle mae pob plentyn yn yr ysgol gynradd hon yn rhedeg milltir bob dydd. Mae'r athrawon yn mynd â’u disgyblion allan o’r gwersi ar gylched a adeiladwyd yn arbennig o gwmpas yr ysgol am filltir yn ddyddiol, a hynny pryd bynnag sy’n gweddu orau yn yr amserlen ar gyfer y dosbarth penodol. Mae wedi bod ar waith ers dros bedair blynedd ac nid oes un plentyn yn yr ysgol honno dros ei bwysau. Pam nad ydym ni'n gwneud hyn nawr? Oherwydd, nid oes angen adnoddau ychwanegol; efallai y byddai angen addasu rhywfaint ar iard yr ysgol, ond mewn gwirionedd nid yw hyn yn costio llawer o arian, ac mae gwir angen am gamau gweithredu ar y mater hwn. Rwy'n gobeithio y bydd y comisiynydd plant yn rhoi mwy o bwyslais ar y mater pwysig hwn. Mae gan blant yr hawl i dyfu i fyny yn iach, ac mae hynny'n cynnwys bwyd iach ac ymarfer corff iach.
Rwy’n llwyr gefnogi'r weledigaeth ar gyfer Cymru sydd gan Sally Holland, Comisiynydd Plant newydd Cymru, sy’n nodi y dylai pob plentyn a pherson ifanc gael cyfle cyfartal i fod y gorau y gallant fod. Rydym i gyd yn dymuno hynny ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru a gweddill y DU. Ar y funud, mae'n rhy gynnar i roi barn ar p'un a yw'r swydd ei hun a'r costau cysylltiedig yn fuddiol i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Dim ond amser a ddengys. Fodd bynnag, yr ymateb mwyaf trawiadol fydd ymateb plant Cymru eu hunain a'u hadborth.
Roeddwn i eisiau nodi un elfen o'r adroddiad sy'n agos at fy nghalon, sef tudalen 37 a'r darn ar ymgynghoriad i gau ysgol. Ysgrifennodd disgyblion, trwy eu cyngor ysgol, at y comisiynydd yn cwyno am eu hanfodlonrwydd â'r broses ymgynghori a weithredwyd gan yr awdurdod lleol yn gysylltiedig â chynigion i gau ysgolion. Roedd y plant o’r farn bod y broses ymgynghori wedi ei chynnal yn wael, ac roeddynt o’r farn nad oedd eu lleisiau wedi'u clywed. Mae'n ymddangos, o ddarllen yr adroddiad, bod yr ysgol wedi ei chau beth bynnag, a’r mwyaf a gafodd y disgyblion o hyn oedd bod eu lleisiau wedi cael eu clywed o ran y trefniadau i drosglwyddo i'w hysgol newydd. Y cwestiwn yr hoffwn i wybod yr ateb iddo yw hwn: a yw hyn yn golygu nad yw awdurdodau lleol, y rhan fwyaf ohonynt yn rhai Llafur yng Nghymru, yn gwrando ar bobl a phlant yn ardal eu cartrefi. A yw Llywodraeth Cymru yn cyfaddef yma mai trwy’r comisiynydd plant yn unig y caiff lleisiau’r disgyblion eu clywed? Os felly, mae'n hynny’n sefyllfa wael iawn.
Rwyf hefyd yn croesawu'r adroddiad hwn ac yn llongyfarch Sally Holland arno. Rwyf hefyd yn croesawu'n benodol yr ymgynghoriad ‘Beth Nesa’ a gynhaliwyd, oherwydd, fel y dywedodd Llyr Gruffydd, ei fod yn sylfaen gadarn iddi seilio ei hargymhellion arni. Cymerodd chwe mil o blant ran yn yr ymgynghoriad hwnnw, o dair i 18 oed, i geisio darganfod beth oedd prif bryderon plant yng Nghymru—beth yw cyflwr plant yng Nghymru. Rwy'n falch iawn bod y comisiynydd yn dweud yn ei hadroddiad nad y lleisiau y byddem efallai yn fwy tebygol o’u clywed yn unig y gwrandawodd arnynt ond lleisiau’r plant hynny nad ydym yn eu clywed yn aml. Rhestrodd plant digartref, rhai sy'n gadael gofal, a phlant Sipsiwn a Theithwyr. Wrth gwrs, roeddwn i o’r farn ei bod yn arbennig o dda y cafwyd 758 o ymatebion gan blant dan saith oed, oherwydd gwn mai ein pwyslais ni yn y Cynulliad hwn yw ceisio cyrraedd plant mor ifanc â phosibl, ac rwy’n meddwl bod cyrraedd y plant hynny sydd dan saith oed yn llwyddiant mawr, oherwydd rwy’n meddwl bod angen i ni ymgynghori â phlant yn ifanc iawn a chael gwybodaeth ganddyn nhw am sut y maen nhw’n teimlo am eu bywydau o'u cwmpas. Un o'r pethau diddorol, nad yw’n syndod, yw mai un o’r pethau yr oedd y plant ieuengaf yr ymgynghorwyd â nhw ei eisiau oedd mwy o leoedd i chwarae, oherwydd rwy’n credu ein bod ni i gyd yn gwybod pa mor hanfodol bwysig yw chwarae, ac, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ei chanmol am ddeddfu ar gyfer chwarae. Ym 1926, dywedodd David Lloyd George:
Yr hawl i chwarae yw hawliad cyntaf plentyn ar y gymuned. Chwarae yw hyfforddiant natur ar gyfer bywyd. Ni all unrhyw gymuned ymyrryd â'r hawl hwnnw heb wneud niwed parhaol i feddyliau a chyrff ei dinasyddion.
Rwyf wir yn credu y dylem fod yn gwneud defnydd o bob cyfle sydd gennym i greu cyfleoedd i chwarae i’n plant. Felly, rwy’n meddwl ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr amgylchedd, yn enwedig yr amgylchedd adeiledig, er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu anghenion ein plant.
O edrych ar yr arolwg yr anfonodd y comisiynydd plant allan, roedd yr arolwg yn gofyn i blant ddewis hyd at dri o’u hoff lefydd i chwarae, o restr o naw o leoedd. Mae'n ddiddorol bod 61 y cant ohonynt wedi dewis y pwll nofio yn un o'r tri o hoff lefydd i chwarae, a’r ddau arall mwyaf poblogaidd oedd parciau a thraethau. Ychydig iawn o blant mewn gwirionedd a ddewisodd y stryd fel un o'u hoff lefydd i chwarae. Credaf fod hyn yn adlewyrchu sut y mae cymdeithas wedi newid yn y bôn, ac nad yw plant yn gallu mynd y tu allan i'w drws a chwarae. Yn amlwg, rydym yn gwybod bod hynny oherwydd y twf mewn traffig, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y dylem fod yn cymryd llawer mwy o gamau gweithredu yn ei gylch mewn gwirionedd, gan greu mannau diogel i chwarae. Rwy’n gwybod bod pethau fel strydoedd chwarae a gemau chwarae ar y stryd, mentrau chwarae ar y stryd. Ond, er mwyn cael plant i chwarae’n naturiol yn rhan o'u bywydau bob dydd, rwy’n meddwl y dylem fod yn cynnal llawer mwy o fentrau o’r math hwnnw. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw beth y gallai'r Llywodraeth ei wneud i annog mwy o gau strydoedd, gan greu lleoedd mwy diogel.
Yn bersonol, rwy’n credu y dylid cael mwy o leoedd yng nghanol y ddinas i blant chwarae. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn mewn amgylchedd trefol, ac mae'n bwysig ein bod yn cael yr adborth gan blant ar y lleoedd sydd gennym a'r hyn y maent yn ei olygu iddyn nhw. Un o bleserau mawr y swydd hon, yn fy marn i, yw cwrdd â chynghorau ysgolion pan fyddant yn dod i'r adeilad hwn ac rydym yn clywed ganddynt, o lygad y ffynnon, yn union beth yw eu barn nhw, gan fod ymgynghori â phlant a rhoi cyfle iddynt ddweud eu barn, rwy’n meddwl, wir yn gwneud iddynt sylweddoli y gallant benderfynu pethau ac y gallant newid pethau.
Rwy'n credu eu bod wedi gallu gwneud hynny trwy waith y comisiynydd plant, oherwydd rwy’n siŵr y bydd pobl yn cofio, am flynyddoedd lawer, y bu cwynion enfawr trwy adroddiadau’r comisiynydd plant am doiledau ysgol. Nawr, mae'r toiledau ysgol yr ydw i wedi ymweld â nhw erbyn hyn yn well o lawer; yn well o lawer. Nid wyf yn gwybod os yw hynny'n cael ei adlewyrchu gan Aelodau eraill, ond, nawr, rwy’n credu bod angen i ni symud ymlaen at ddarpariaeth toiledau cyhoeddus sy'n addas i blant eu defnyddio ac sydd ar gael yn rhwydd, oherwydd credaf fod hynny’n sefyllfa sy'n mynd yn waeth bob dydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod toiledau cyhoeddus ar gael a bod toiledau cyhoeddus ar gael mewn llyfrgelloedd, oherwydd nid yw hynny'n digwydd ym mhob llyfrgell.
Hoffwn i orffen gydag enghraifft gwirioneddol wych lle yr ymgynghorwyd â phlant yn fy etholaeth i. Mae gennym grŵp yno o'r enw ‘Awen yn y Llyfrgell’. Mae wedi ei sefydlu i gefnogi'r celfyddydau a datblygu'r llyfrgell ar gyfer ei defnydd ehangach yn y gymuned, ac yn ddiweddar cafodd cystadleuaeth ei chynnal i blant i dynnu llun o’u llyfrgell ddelfrydol. Rwy’n meddwl bod gweld y lluniau hynny mor ysgogol ac mor ddiddorol. Gan gysylltu yn ôl at yr ymgynghoriad, mae'n ddiddorol iawn i weld bod gan lawer o'r plant—y rhan fwyaf ohonynt—byllau nofio yn y llyfrgelloedd. Roedd ganddynt ystafelloedd lle y gallent fynd i eistedd yn dawel, ac roedd ganddynt ffynhonnau soda—mae’n ymddangos eu bod eisiau dod â holl bleserau eu bywyd i mewn i'r llyfrgelloedd. Roeddwn i'n meddwl bod hynny’n adlewyrchiad diddorol iawn o ba mor bwysig yw llyfrgelloedd iddyn nhw a sut y maent yn dymuno iddynt gael eu hymestyn. Diolch yn fawr iawn.
Yn gyntaf, a gaf i ymuno â phawb arall i ddiolch i Gomisiynydd Plant Cymru a'i staff am gyflwyno adroddiad mor gynhwysfawr i ni? Unwaith eto, fel eraill, dylid ei chanmol, rwy’n credu, am yr ymgynghoriad ar raddfa eang a gynhaliwyd ganddi hi a'i staff, ar ôl iddi gyfarfod â’r miloedd o blant, rhieni a gweithwyr proffesiynol hynny.
Mae'r adroddiad yn ymdrin â sawl maes pwysig, ac mae eraill wedi ymdrin â hynny, mewn gwirionedd, felly rwyf am godi dau faes, os yw’n iawn i mi wneud hynny. Yn gyntaf, mae'r dystiolaeth yn yr adroddiad am lefel y pryder am y drefn bresennol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhywbeth yn sicr sydd wedi ei godi gyda mi gan rieni plant ag anghenion addysgol arbennig, sy'n dweud wrthyf am eu brwydr i gael y cymorth cywir ar gyfer eu plentyn. Ac, yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd o dros 6,000 yn nifer y plant ag AAA ers 2011 a, dim ond ym Merthyr, mae 2,500 o blant ag AAA, bron i 200 ohonynt â datganiadau. Felly, roeddwn yn falch iawn, ym mis Gorffennaf eleni, pan ddywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes y bydd Bil anghenion dysgu ychwanegol a thribiwnlys addysg newydd yn cael ei gyflwyno cyn y Nadolig, sy’n gam sylweddol tuag at fynd i'r afael â'r pryderon a nodwyd gan y comisiynydd plant, wrth ein symud ni tuag at ddull mwy modern, amlasiantaeth, o ymdrin ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ail, o ystyried yr heriau economaidd a wynebir o hyd mewn llawer o etholaethau, fel fy un fy hun ym Merthyr Tudful a Rhymni, roedd gennyf ddiddordeb yng nghasgliadau'r adroddiad ar dlodi plant, a gallwn dreulio llawer mwy o amser na'r ychydig funudau sydd gen i yn y ddadl hon y prynhawn yma yn siarad am y mater penodol hwnnw, ond rwy'n falch bod yr adroddiad yn cydnabod nad yw trechu tlodi plant yn fater o rieni yn sicrhau cyflogaeth yn unig. Rydym yn gwybod bod llawer o ddynion a menywod sy’n gweithio’n galed yn gorfod ymdopi’n ddyddiol â chystudd tlodi mewn gwaith, fel yr amlinellwyd yn gynharach gan Julie James yn ei datganiad. Mae teuluoedd â phlant yn parhau i wynebu toriadau niweidiol i gymorth lles a orfodir gan y Torïaid yn San Steffan, gan eu cadw mewn tlodi er gwaethaf y ffaith eu bod yn aml mewn cyflogaeth lawn-amser. Mae'r camau enfawr a wnaethpwyd gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf i leihau tlodi plant wedi eu gwrthdroi, wrth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas barhau i ddioddef mesurau caledi, sy’n taro’r tlotaf galetaf. Mae tlodi mewn gwaith, felly, yn sicr yn thema yr wyf i wedi bod yn canolbwyntio arno yn fy etholaeth i ac, ym maes cyflogaeth, gan bwysleisio'r angen i sicrhau, os bydd swyddi newydd yn dod i ardal, eu bod yn talu'n dda, nad ydynt ar gontractau dim oriau, a’u bod yn cael eu darparu gan gwmnïau sydd wedi ymrwymo i ddod yn rhan gynaliadwy o'r gymuned leol, ac sydd bellach yn gallu cysylltu â'r rhaglen ‘Symud Cymru Ymlaen’ gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant lleol i ddarparu’r sgiliau a’r hyfforddiant y mae eu hangen ar gyflogwyr. Oherwydd mae rhieni sydd mewn cyflogaeth fedrus, ddiogel, hirdymor yn elfen hanfodol wrth godi plant allan o dlodi.
Rwyf hefyd yn obeithiol y bydd yr ymrwymiad o'r newydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Dechrau'n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf gyda fframwaith trechu tlodi mwy hyblyg ac ymagwedd gydlynol yn y gymuned i drechu tlodi plant, drwy gyflogaeth foddhaol, gynaliadwy, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru pan fo hynny’n angenrheidiol, yn dechrau mynd i'r afael â'r materion a nodwyd gan y comisiynydd, oherwydd, a dweud y gwir, ni allwn ganiatáu i’n hunain fethu’r genhedlaeth hon o blant.
Rwy’n siarad yn y ddadl hon heddiw yn fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Ar ddiwedd y pedwerydd Cynulliad, awgrymodd y pwyllgor yn ei adroddiad etifeddiaeth y dylem ystyried archwilio materion ynghylch penodiad ac atebolrwydd comisiynwyr. Fe wnaeth hyn oherwydd ei fod yn gweld y rhain fel materion o egwyddor gyfansoddiadol. Yn dilyn ein hadroddiad ar Fil Cymru, rydym wedi dechrau mynd i’r afael â’n blaenraglen waith, ac, fel rhan o’r broses honno, rydym wedi bod yn ystyried ymgymryd â pheth gwaith ynghylch penodiad ac atebolrwydd comisiynwyr. Fel cam gyntaf o’r broses honno, fe gafwyd cyfarfod anffurfiol a chynhyrchiol ddoe gyda rhai arbenigwyr yn y maes. Er nad ydym eto wedi datblygu ein syniadau yn llawn ar y materion hyn, roeddwn yn meddwl ei bod yn briodol tynnu sylw’r Cynulliad at y tebygolrwydd y bydd y pwyllgor yn bwrw ymlaen â gwaith yn y maes hwn. Gyda chymeradwyaeth y Pwyllgor Busnes, rwy’n bwriadu gwneud datganiad pwyllgor yn ei dro ar y ffordd yr ydym wedi cytuno i fwrw ymlaen â’r gwaith. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i’r ddadl.
Diolch i chi, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ar yr adroddiad heddiw. Mae'r adroddiad hwn yn amlinellu gwaith rhagorol y comisiynydd a'i swyddfa, ac yn codi materion ymarferol pwysig sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc. Gwrandewais yn astud iawn ar gyfraniadau’r Aelodau yma y prynhawn yma.
Rwy’n parhau i weithio'n agos gyda'r comisiynydd i sicrhau y cynigir eiriolaeth yn weithredol i bob plentyn. Mae'r cynnig hwn yn flaenoriaeth yn y cynllun gweithredu ar gyfer dull cenedlaethol o eirioli, ac rwy'n ymwybodol bod Llyr ac eraill wedi codi’r mater penodol hwnnw. Mae ein rhaglen o ‘Symud Cymru Ymlaen’ yn cynnwys ystod o ymrwymiadau a fydd yn cael effaith uniongyrchol ar gyflawni amcanion ein strategaeth tlodi plant. Gwnaeth Dawn Bowden gyfeiriadau cryf at yr effaith y mae tlodi mewn gwaith yn ei gael, yn arbennig ar deuluoedd a phobl ifanc. Mae'n rhywbeth yr ydym yn ymwybodol iawn ohono, ac rydym yn gweithio ar draws y Llywodraeth gyda Ken Skates, y Gweinidog arweiniol, yn arbennig. Mae trechu tlodi yn rhywbeth yr ydym yn ymwybodol ohono o ran ein hymrwymiadau maniffesto ar swyddi, twf a chyfle.
Mae'r comisiynydd wedi croesawu ein hymrwymiad i ddarparu amddiffyniad cyfartal i blant. Mae ‘Symud Cymru Ymlaen' yn ailddatgan ein bwriad i fwrw ymlaen â deddfwriaeth ar sail drawsbleidiol a fydd yn cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol. Mae angen i ni helpu rhieni gan gynnig ffyrdd iddynt fod y gorau un y gallant ar gyfer eu plant. Gwnaeth Jenny grybwyll y mater o dyfu i fyny yn iach, a rhan o'r rhaglen honno yw annog rhieni i fod yn rhieni da fel y gallant roi dechrau da mewn bywyd i'w plant ifanc.
Hoffwn gyfeirio at rai o'r pwyntiau y mae Aelodau wedi'u codi ac mae ganddynt farn gref arnynt yma heddiw. Byddaf yn ceisio ymateb i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau hynny, os caf. O ran y mater cyntaf, soniodd Darren Millar am gofrestru addysgu yn y cartref, yn ogystal â Llyr, ac roedd eu safbwyntiau yn gwrthwynebu ei gilydd ychydig, ond yr un egwyddor, rwy’n meddwl, sydd y tu ôl i sylwadau'r ddau Aelod, sef amddiffyn pobl ifanc, ac rwy'n credu mai dyna y mae’n rhaid i ni fod yn ystyriol ohono. Mae Kirsty Williams a minnau yn trafod sut y gallai edrych yn y dyfodol, ond, yn y pen draw, y peth pwysig i ni i gyd yw diogelu’r unigolyn. Rwy'n credu mai dyna ddylai lywio ein proses o wneud penderfyniadau, ond rwyf yn cydnabod bod hefyd lawer o dystiolaeth o’r naill ochr a gyflwynir i ni ac i Aelodau, o ran gwneud penderfyniadau tymor hwy.
A gaf i godi mater y gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc? Unwaith eto, rwy’n credu ein bod wedi cymryd camau breision o ran cyflenwi. Soniodd Darren Millar am yr uned yn ei etholaeth ef, uned flaenllaw, ac rwy'n ddiolchgar iddo am godi'r mater hwnnw yma heddiw, gan gydnabod y gwaith gwych sy'n cael ei wneud yno. Ond rwy'n credu mai’r hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud hefyd yw troi’r telesgop y ffordd arall, mewn gwirionedd, gan fod trin iechyd meddwl yn ffaith, ac mae'n rhaid i ni wneud hynny, a pharhau i wneud hynny, ond, mewn gwirionedd, yr hyn y mae’n rhaid i ni ei wneud yw atal pobl ifanc rhag dioddef problemau iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Dechrau'r daith honno yw’r pethau y siaradodd Jenny amdanynt—lles unigolyn, gydag ymagwedd gynhwysfawr tuag at lwyddiant, mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â phrofiadau niweidiol mewn plentyndod fel nad ydym yn syrthio i mewn i’r fagl honno o wasanaethau iechyd meddwl yn nes ymlaen. Mae ymateb i’r broblem yn llawer anoddach bryd hynny. A dweud y gwir, yr hyn yr ydym yn dymuno ei wneud yw atal y cyflenwad, eu hatal rhag dod i mewn i'r system yn y lle cyntaf. Dyna pam mai dull y Llywodraeth o ymdrin ag iechyd a lles yw atal ac ymyrryd yn gynnar. Rwy'n sicr mai hwn yw’r peth iawn i'w wneud. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau yn y system CAMHS, ond rydym yn ymdrechu i gyflawni hynny.
Cyfeiriodd Darren Millar at annibyniaeth y comisiynydd a chomisiynwyr, a byddai'n anghywir i ddweud nad oes gan y Cynulliad swyddogaeth yn hyn, gan fod gweithdrefnau craffu a galw i mewn pwyllgorau yn gyfredol, a gall Aelodau alw y comisiynydd i graffu ar y broses honno yn annibynnol o’r Llywodraeth. Felly nid wyf yn cydnabod y mater ynghylch cyfaddawdu comisiynwyr a'u gallu i fod yn annibynnol. Mae gan y Cynulliad swyddogaeth gref yn hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy’n ymwybodol o'r amser, gwnaf, os caf.
Y mater o sicrhau ein bod yn edrych ar bobl ifanc drwy eu ffordd o fyw a sut y maent yn tyfu i fyny: Jenny, byddwch yn gyfarwydd, gobeithio, â’r prosiect 1000 o ddyddiau yr ydym yn ei redeg yn rhan o rai o'r rhaglenni, lle byddwn yn edrych ar y cyfnod cyn yr enedigaeth hyd at ddwy flwydd oed—rhaglen lwyddiannus iawn, unwaith eto, yn edrych ar y cyfleoedd a sut y mae'r ymennydd yn ffurfio mewn person ifanc yn y cyfnod hynny o ddwy flynedd; mae'n un pwysig iawn.
O ran y filltir ddyddiol, y gwnaethoch sôn amdani, mewn ysgolion, gallaf eich sicrhau ein bod yn gwneud hynny mewn ysgolion. Rwy’n datgan buddiant, nid o ran gwneud y filltir ddyddiol, ond mae fy ngwraig yn ysgol Bryn Deva yn Sir y Fflint, sy'n gwneud hynny bob dydd. Felly, dylid eu llongyfarch, ac mae llawer o ysgolion eraill ledled Cymru yn cyfrannu at les ein pobl ifanc.
O ran pwynt Michelle Brown. Rwyf ychydig yn siomedig â’i sylwadau hi o ran ceisio awgrymu nad ydym yn gwrando ar bobl, ac yn benodol nad ydym yn gwrando ar bobl ifanc. Rwy’n atgoffa'r Aelod mai’r Llywodraeth hon a gyflwynodd y comisiynydd plant a’r Llywodraeth hon a gyflwynodd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw bregeth gan yr Aelod ar hyn. Y peth mwyaf niweidiol yr wyf yn credu y mae’n rhaid i ni ei ystyried gyda'n plant yw ein hymagwedd tuag at Brexit a'r sylwadau hiliol a nodwyd gan ei phlaid ynglŷn â phobl ifanc yn y cymunedau yr ydym ni i gyd yn eu cynrychioli. Dyna'r broblem go iawn sydd gennym ar gyfer ein pobl ifanc.
Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau, fel y crybwyllais yn gynharach, ar y sail y byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i adroddiad y comisiynydd ac yn cyd-drafod y cynnwys dros yr ychydig wythnosau nesaf, drwy raglen ymgynghori. Rwy'n ddiolchgar am y rhan fwyaf o sylwadau’r Aelodau, ac rwyf hefyd yn dymuno cofnodi’r ffaith bod y Llywodraeth hon yn llongyfarch y comisiynydd a'i swyddfa.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Rŷm ni’n cyrraedd, felly, y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno imi ganu’r gloch, rydw i’n symud yn syth i’r cyfnod pleidleisio.