<p>Cymunedau yn Gyntaf</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 1:32, 16 Tachwedd 2016

Yn dilyn cyhoeddiad diweddar yr Ysgrifennydd Cabinet, mae rhai wedi cysylltu efo fi yn eiddgar i warchod elfennau penodol o waith presennol Cymunedau’n Gyntaf yn y dyfodol. Mae Cymunedau’n Gyntaf Môn CF yng Nghaergybi, er enghraifft, yn falch iawn o nifer o agweddau o’r gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud yn y dref, ac rydw innau yn eu llongyfarch nhw ar y gwaith hwnnw. Ac maen nhw yn pwysleisio eu bod nhw yn barod i weithio’n adeiladol tuag at greu cyfundrefn newydd. Ond sut all y Llywodraeth sicrhau bod enghreifftiau o waith da sydd wedi cael ei wneud yn cael ei gydnabod, yn cael ei warchod, ac yn cael ei ledaenu hefyd, i ardaloedd eraill ym Môn, a rhannau eraill o Gymru, o dan y gyfundrefn newydd?