Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Rwyf wedi ymweld ag Ynys Môn mewn gwirionedd o dan raglenni Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol, ac wedi gweld rhywfaint o’r gwaith gwych a’r gweithgarwch yn yr ardal honno. Ond fel y gwyddoch o fy natganiad, rydym yn cynnal adolygiad llawn o raglen Cymunedau yn Gyntaf. Bydd Cymunedau am Waith a Rhaglen Esgyn yn rhan a ddiogelir o’r weithdrefn honno wrth i ni symud ymlaen. Rwyf wedi ymrwymo i ddyfodol hynny, ac mae gweddill y rhaglen yn cael ei hadolygu. Mae proses ymgynghori ar waith gennym gan ein bod yn y cyfnod hwnnw ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud datganiad yn y flwyddyn newydd.