<p>Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 1:38, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Ddydd Gwener diwethaf, bûm yn siarad yng nghynhadledd Newid Ystyrlon yn Llanrwst yng ngogledd Cymru a drefnwyd gan Rwydwaith Cydgynhyrchu Cymru ac a oedd yn canolbwyntio, ymhlith pethau eraill, ar ddysgu am enghreifftiau ysbrydoledig lle y cafodd cydgynhyrchu ei fabwysiadu’n effeithiol, a thrafod ffyrdd y gallwn gynnwys pobl fwyfwy yn y broses o gynllunio a darparu gwasanaethau yn unol â nodau llesiant Cymru. O ystyried ffigurau’r Gynghrair Dileu Tlodi Plant yr wythnos diwethaf fod 28 y cant o blant Cymru yn byw mewn tlodi—mae hynny’n parhau i fod yn uwch na gwledydd eraill y DU—sut rydych yn teimlo neu ba ystyriaeth a roesoch i roi egwyddorion cydgynhyrchu ar waith er mwyn helpu i fynd i’r afael â hynny, wrth i chi ddatblygu modelau newydd ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru?