Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Credaf fod yr Aelod yn gofyn cwestiwn teg; credaf mai ymwneud y mae â’r defnydd o iaith yn unig. Credaf mai’r hyn rydym wedi’i wneud mewn gwirionedd yn y Llywodraeth yw deddfu ar gyfer hyn ar ffurf y Ddeddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Mae 44 corff cyhoeddus yn awr wedi’u galluogi i gyflawni pum egwyddor y Ddeddf, lle y mae ymyrraeth ac ymgysylltiad yn rhan o’r broses honno. Felly, defnyddia’r Aelod y term ‘cydgynhyrchu’, ond nid wyf yn credu ei fod yn wahanol iawn i egwyddorion Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol, y deddfwyd ar eu cyfer y llynedd.