<p>Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 1:48, 16 Tachwedd 2016

Y flwyddyn yma, fe gyflwynodd Cyngor Sir Gaerfyrddin, o dan arweiniad Plaid Cymru, gynllun i gyflwyno 1,000 o dai fforddiadwy newydd dros y pum mlynedd nesaf. Fel rhan o’r cynllun, mae ganddyn nhw amrywiaeth o ffyrdd i gyflawni hynny: rheoli tenantiaethau ychwanegol yn y sector preifat, dod â mwy o dai gwag yn ôl i ddefnydd, a phrynu cartrefi preifat newydd er mwyn eu rhentu nhw. A ydych chi yn cytuno efo fi bod hwn yn gynllun i’w gymeradwyo ac yn cynnig atebion arloesol, a hefyd y dylid argymell y ffordd yma o weithredu i awdurdodau lleol eraill ar hyd a lled Cymru er mwyn iddyn nhw ddysgu o’r ymarfer da yma, ac ymateb i broblemau tai yn eu hardaloedd nhw?