<p>Tai Cymdeithasol a Fforddiadwy </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:49, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae llawer o arferion da ledled Cymru o ran atebion tai. Yn wir, mae awdurdod Llafur Sir y Fflint hefyd wedi cyflwyno cynllun adeiladu tai cyngor, ac yn wir, maent yn diogelu’r sylfaen asedau ar y sail eu bod yn gwneud cais i wahardd yr hawl i brynu hefyd. Felly, rwy’n canmol pobl sy’n buddsoddi yn eu cymunedau, waeth i ba blaid y maent yn perthyn.