Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, amcangyfrifwyd mewn adroddiad gan y diweddar Athro Holmans fod angen hyd at 240,000 o unedau tai newydd ar Gymru, neu 12,000 o unedau rhwng 2011 a 2031—golyga hynny o fewn yr 20 mlynedd nesaf. Mae hyn bron ddwywaith cymaint â’r nifer a ddarparwyd yn 2014-15. Pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru ganfyddiadau’r Athro Holmans ac ymrwymo yn lle hynny i gyflawni targed ar gyfer tai sy’n is o lawer na’i amcanestyniad ef o anghenion Cymru?