<p>Gwella Cyfleusterau Chwarae i Blant</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carl Sargeant Carl Sargeant Labour 1:57, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Rwy’n ddiolchgar i’r Aelod dros Ddelyn am ofyn y cwestiwn pwysig hwnnw i mi. Mae’n bleser croesawu Ysgol Merllyn a’r prif weinidog, Tony, gyda’i enw hanesyddol, i’r Siambr hefyd. Mae’r Aelod yn crybwyll pwynt pwysig iawn. Yn wir, mae’r canllawiau statudol, ‘Cymru—Gwlad sy’n Creu Cyfle i Chwarae’ yn nodi’r hyn sy’n ofynnol gan awdurdodau lleol wrth iddynt gyflawni eu rôl—y clybiau ieuenctid a’r cynghorau ysgol. Mae’r canllawiau hefyd yn annog awdurdodau lleol i gael hyrwyddwr chwarae i godi proffil chwarae ymysg pobl ifanc. Rwy’n annog pob awdurdod i ymgysylltu â phobl ifanc o ran yr hyn y maent yn eu hystyried yn ofynion ar gyfer eu cymunedau a’r anghenion sydd ynghlwm wrth hynny, a dymunaf daith ddiogel i’r ysgol yn ôl i’ch etholaeth.