Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae’n hawdd siarad, ac rwy’n ceisio meddwl sut rydych yn cyplysu’r gwrth-ddweud rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud yn y Siambr hon a’r ffaith fod canolfan chwarae ar ôl canolfan chwarae wedi cael eu cau gan eich plaid yn fy rhanbarth. Yng Nghaerdydd, mae Canolfan Chwarae Grangetown wedi bod o dan fygythiad ers blynyddoedd; mae gennym Glwb Ieuenctid Canol Caerdydd a’r clybiau chwarae o gwmpas hwnnw o dan fygythiad—wel, yn y bôn, dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i gau. Dywedwyd wrthynt eu bod yn mynd i gau. Felly, pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni’r plant y mae eu canolfannau chwarae o dan fygythiad gan eich plaid?