Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae’n amlwg fod gan y Cynulliad hwn rôl strategol iawn yn y ffordd yr ydym ni’n rheoli ac yn creu polisi. Efallai y bydd yr Aelod am ailystyried y cwestiwn hwnnw, gan ei fod yn gynghorwr yn yr awdurdod lleol y mae’n sôn amdano. Mae’n safbwynt diddorol, wrth iddo sôn am ‘eich plaid chi’ yn cau canolfannau chwarae ac ysgolion ac ati. Dyma ddyn a oedd yn arfer bod yn aelod o’n plaid ni, ond newidiodd ei safbwynt, fe aeth at blaid arall, ond nid yw hynny’n newydd inni ychwaith. Felly, rwy’n diolch iddo am y cwestiwn, ond mae’n gwestiwn dibwynt, eto.