Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Credaf y byddai’n deg egluro ynglŷn â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf. Nid wyf wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â hynny eto, fel y gŵyr yr Aelod yn iawn, ac nid wyf ychwaith wedi dweud mai’r bwriad yw i’r rhaglen hon gymryd lle rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, er fy mod wedi dweud, cyn belled ag y gallwn gynnal rhaglen Esgyn a’r rhaglen Cymunedau am Waith, y byddaf yn parhau i wneud hynny, er gwaethaf y ffaith mai rownd gyllidebol 12 mis sydd i honno. Ond rwy’n awyddus i barhau â hynny am gyfnod hwy. Byddaf yn rhoi ymateb mwy manwl i’r Aelod ynglŷn â chyllid, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod, os caf, gyda manylion am y rhaniad rhwng cyllid Ewropeaidd a’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru. Ond fel y dywedais, mae’r broses o gyrraedd ein targed cyffredinol—y garreg filltir o ddarparu 4,000 o gyfleoedd erbyn diwedd mis Tachwedd bron wedi’i chwblhau, gyda 3,919 o’r rhaglenni hyfforddi hynny eisoes yn gyfleoedd i unigolion ledled Cymru.