<p>Y Rhaglen Cymunedau am Waith</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:01, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, oherwydd credaf fod gennyf innau bryderon ynglŷn â dyfodol y rhaglen hon, a rhaglen Esgyn yn benodol, sy’n helpu pobl yn ôl i mewn i waith ac yn targedu ardaloedd difreintiedig? Credaf ei fod wedi rhoi sicrwydd y byddant yno yn y dyfodol. A all hefyd roi sicrwydd, wrth iddo ystyried a thrafod yr ymgynghoriad yn dilyn ei ystyriaeth i roi diwedd ar raglenni Cymunedau yn Gyntaf, sut y byddant yn gweithio yn yr ardaloedd hynny, gan fod eu ffocws ar Cymunedau yn Gyntaf mewn gwirionedd a’u bod wedi integreiddio’n rhannol â Cymunedau yn Gyntaf ar hyn o bryd, er mwyn i ni allu sicrhau eu bod yn parhau y tu hwnt i ddiwedd Cymunedau yn Gyntaf o bosibl?