<p>Y Rhaglen Cymunedau am Waith</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:02, 16 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, rydym yn gwybod mai prif achos tlodi yw anweithgarwch economaidd, ac amcan y rhaglen hon yw helpu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur. Maent naill ai wedi bod yn anweithgar yn economaidd erioed neu wedi bod felly ers amser hir iawn, ac mae targedu sgiliau isel, gyda’r nod o gael mentoriaid sy’n gallu siarad â’r bobl hyn a’u hysbrydoli a rhoi’r hyder iddynt symud ymlaen, ac i roi’r hyfforddiant hwnnw iddynt mewn mannau lle y byddant yn ddigon cyfforddus i’w dderbyn—nid yw’n hawdd mynd i goleg addysg bellach os yw’r math hwnnw o amgylchedd yn gwneud i chi deimlo dan fygythiad. Ond mae’r rhaglenni hyn yn ddibynnol iawn ar gyllid yr UE—£7 miliwn yn y rownd ddiweddaraf, ac mae’n rhaid i ni ddiogelu’r arian hwn. Mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth iddo wrth i ni gynllunio ar gyfer cyllidebau’r dyfodol.