Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac fel y soniais yn gynharach yn fy nghyfraniadau, rwy’n credu bod yn rhaid i’r Llywodraeth hon ganolbwyntio ar ddau faes, sef adfywio economaidd a datblygu’r swyddi, y sgiliau a chyfleoedd a hyder i bobl allu mynd i mewn i’r farchnad, er mwyn rhoi sefydlogrwydd hirdymor iddynt. Un elfen yn unig o’r jig-so yw’r rhaglen Cymunedau am Waith, ac Esgyn, gan gynnwys y 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed a’r adduned gofal plant, sef cyfres o ddulliau i alluogi pobl i fynd yn ôl i mewn i’r farchnad. Rwy’n sicr yn cydnabod y buddsoddiad Ewropeaidd sylweddol. Rwy’n ddiolchgar am gydnabyddiaeth yr Aelod hefyd, a bydd yn ddefnyddiol i ni ddod at ein gilydd pan fydd rhaglen gadael yr UE yn cael ei chyflwyno, er mwyn sicrhau ein bod yn cael ein hariannu’n llawn i raddau sy’n gwneud gwahaniaeth yn ein holl gymunedau a gynrychiolir yma yng Nghymru.