Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Tachwedd 2016.
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod ffordd osgoi’r Drenewydd yn datblygu’n dda, a byddwn yn ddiolchgar iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, pe gallech roi gwybod i mi sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo trefi dyffryn Hafren—yn enwedig y Drenewydd, Llanidloes a’r Trallwng—i fanteisio i’r eithaf ar ffordd osgoi’r Drenewydd pan fydd wedi’i chwblhau.